Gwasanaethau Byw â Chymorth

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn

Am y prosiect

Pwrpas y gwasanaeth yw darparu Gwasaanethau Byw â Chymorth
i ddarparwyr sydd ag Anabledd Dysgu a/neu Nam ar y Synhwyrau a defnyddwyr gwasanaeth sydd yn profi ac yn dioddef afiechyd meddwl, ac sydd o bosib yn meddu ar anableddau ychwanegol a chyflyrau corfforol. m

Mae’r gwasanaeth yn ffocysu ar unigolion yn ceisio sicrhau cymaint o annibyniaeth ag sydd yn bosib drwy ddarparu cymorth mewn meysydd fel:

  • Cymorth gyda gofal personol
  • Cymorth gyda symudedd – symud a throsglwyddo fel sydd angen
  • Cymorth gyda gweithgareddau byw’n ddyddiol a thasgau ymarferol eraill fel golchi dillad a thasgau angenrheidiol eraill yn y tŷ
  • Cymorth gyda thasgau’n gofalu am y tŷ (sy’n cael eu gwneud y tu allan i’r tŷ o bosib) fel cyllidebu. Yn casglu presgripsiwn o’r fferyllfa, talu biliau a siopa
  • Cymorth gyda hydradu a maetheg – gan gynnwys paratoi bwyd
  • Cymorth gyda chynnal perthynas gyda theulu a ffrindiau a’n goresgyn arwahanrwydd cymdeithasol yn eu llety
  • Cymorth gyda mynychu apwyntiadau iechyd a’n derbyn gwasaanethau er mwyn cynnal eu llety.

Mae unigolion yn cael eu hannog i ddatblygu eu hyder a’r sgiliau wrth ymgymryd â’r gweithgareddau yma a’r tasgau yma eu hunain.

Mae’r gwasanaeth wedi ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Rhaid bod unigolion (oedolion) yn cwrdd â meini prawf Cyngor Sir Fynwy er mwyn derbyn y gwasanaeth.


Mae atgyfeiriadau yn cael eu derbyn gan Dîm Broceriaeth yr Awdurdod Lleol, yn seiliedig ar asesiad o anghenion mewn Cynllun Gofal a Chymorth a/neu’r Cynllun Triniaeth.

Adnoddau