Am y Prosiect
Mae Tîm Defnydd Sylweddau Pobl Ifanc Powys wedi eu lleoli ar draws Powys, gyda’n prif swyddfa yn Llanfair-ym-Muallt ar faes y Sioe Frenhinol. Mae ein gwasanaeth yn bwysig oherwydd ein bod yn cefnogi pobl ifanc yn eu cymunedau gyda anawsterau’n ymwneud â sylweddau.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn bobl ifanc o 10 i 18 mlwydd oed. Cynigiwn wybodaeth, cefnogaeth, a chyngor i bobl ifanc ynghylch eu defnydd sylweddau eu hunain neu os ydynt yn cael eu heffeithio gan ddefnydd sylweddau problemus anwylyn. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau addysg mewn ysgolion uwchradd. Gallwn gyfarfod defnyddwyr gwasanaeth lle bynnag y mae’n well ganddynt.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cefnogwn bobl ifanc a allai fod yn cael trafferth gyda’u defnydd sylweddau eu hunain, gan ddod o hyd i ffyrdd i’w helpu i leihau neu i roi’r gorau i’w defnydd. Darparwn wersi mewn ysgolion i roi gwybodaeth a chyngor i ddisgyblion ysgol uwchradd ynghylch peryglon a risgiau sylweddau. Rydym hefyd yn cefnogi pobl ifanc ble mae eu teuluoedd yn defnyddio sylweddau yn broblemus. Cynigiwn gefnogaeth emosiynol a chyngor i bobl ifanc a theuluoedd.
Atgyfeirio
Mae’n rhaid i unigolion fod rhwng 10 ac 18 mlwydd oed i gael eu hatgyfeirio i’n gwasanaeth. Mae angen i unigolion fod yn byw ym Mhowys neu’n mynychu’r ysgol ym Mhowys. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.