Gwasanaeth Defnydd Sylweddau Pobl Ifanc Powys

Sir:

Powys

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp Dydd Llun – Dydd Gwener (apwyntiadau ar gael ar ôl 5yp drwy drefniant)

Ffôn:

0300 777 2258

Am y Prosiect

Mae Gwasanaeth Defnydd Sylweddau Pobl Ifanc Powys yn cynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed ynglŷn â’u defnydd sylweddau eu hunain gan gynnwys cyffuriau, alcohol, ysmygu, anweddu, steroidau neu ddiodydd egni.

Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau rhywun annwyl.

Beth i’w ddisgwyl gan y gwasanaeth:

  • Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol anfeirniadol a lle i gael gwybodaeth, cyngor a helpu i wneud newidiadau cadarnhaol.
  • Rydym yn defnyddio therapïau strwythuredig i gefnogi anghenion y person ifanc orau.
  • Rydym yn darparu sesiynau addysg i ysgolion, clybiau ieuenctid, neu unrhyw grwpiau ieuenctid.
  • Mae cynllun mentora hefyd i helpu i ddargyfeirio’r person ifanc oddi wrth ddylanwadau negyddol a rhoi cyfleoedd iddynt fynychu gweithgareddau amrywiol gydag aelodau staff neu wirfoddolwyr hyfforddedig.

Proses Atgyfeirio

Gall unrhyw un gyfeirio at y gwasanaeth gan gynnwys hunanatgyfeiriadau, y cyfan a ofynnwn yw bod y person ifanc wedi cydsynio i’r atgyfeiriad.