Am y Prosiect
Rydym yn wasanaeth cludiant cymunedol sy’n gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys dau yrrwr fydd yn mynd â gofalwyr, anwyliaid, a’r rhai sy’n cefnogi pobl a effeithir gan iechyd meddwl gwael, sydd yn profi problemau gyda chludiant, i weld eu hanwyliaid yn unedau iechyd meddwl Ysbyty Brenhinol Morgannwg.. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unigolion a gofalwyr (18 oed ac uwch) sy’n profi problemau gyda chludiant.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rydym yn ymroddedig i gynnig gwasanaeth o safon, wedi ei ddarparu i’r answadd uchaf. Cynigiwn gludiant i ofalwyr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ymweld â’u hanwyliaid sy’n gleifion mewnol yn yr unedau iechyd meddwl.
Atgyfeirio
Ystod oedran y gwasanaeth yw 18 mlwydd oed ag uwch. Gall defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr gysylltu’n uniongyrchol gyda’r cludiant cymunedol ar eu ffonau symudol (Terry Jenkins: 07970 436201, Darren Hynes: 07970 435736) neu gyda’r rheolwr gwasanaeth ar gyfer Hybiau Cwm Taf Morgannwg ar y manylion cysylltu uchod.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.