Gwasanaeth Cludiant Cymunedol

Sir:

Merthyr Tudful Rhondda Cynon Taf

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun i Ddydd Sul

Am y prosiect

Mae’r gwasanaeth yn cludo pobl o Ddyffryn Cynon a Merthyr Tudful i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae’r sawl sydd yn cael eu cludo yn ffrindiau/perthyn i gleifion sydd ar y wardiau iechyd meddwl. Mae’r gwasanaeth cludiant yn caniatáu teithwyr i ymweld gyda ffrindiau/perthynas sydd yn medru helpu’r cleifion i wella.   
 
Nid yw Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn hygyrch iawn ar gyfer pobl na sydd yn gyrru/ na sydd yn meddu ar gar. Mae’r cyfle i ddefnyddio gwasanaeth cludiant i ymweld gyda ffrindiau/perthnasau yn medru gwella llesiant y teithwyr gan eu bod yn medru cyrraedd yr ysbyty er mwyn ymweld ag anwyliaid.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Pobl na sydd yn meddu ar y gallu i gyrraedd eu hanwyliaid ac sydd yn aros ar Wardiau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.