Am y Prosiect
Mae Gofalu am Eich Arian gan Adferiad wedi ei leoli ym Mlaenau Gwent. Mae’r gwasanaeth yn darparu cyngor a chefnogaeth i ofalwyr ifanc a allai fod yn cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw ac yn profi caledi ariannol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae Gofalu am Eich Arian yn cefnogi gofalwyr di-dâl o oed 16+ trwy ddarparu sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arwyddbostio. Rydym yn ffocysu ar reoli arian, tai, addysg, a llwybrau gyrfa.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rydym wedi ymrwymo i roi gwasanaeth o safon i’n gofalwyr, sydd wedi ei ddarparu i’r ansawdd uchaf, ac mae’r gefnogaeth rydym yn ei darparu yn seiliedig ar anghenion pob unigolyn. Mae’r staff yn treulio amser gyda’r gofalwr yn trafod beth sy’n bwysig iddyn nhw, deall yr heriau maent yn eu hwynebu a’r hyn fyddai’n eu helpu. Ein blaenoriaeth yw i sicrhau bod y gofalwr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed ac yn cael eu cefnogi.
Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cynnwys:
- Cyngor ar fyw ar gyllideb
- Ysgrifennu CV
- Ceisiadau grant
- Datblygu sgiliau hunan-reolaeth i edrych ar ôl eu hiechyd a’u llesiant eu hunain
- Pendantrwydd a hunan-eiriolaeth
- Sefydlu ffiniau o fewn eu rôl gofalu
- Deall y ddeddfwriaeth a beth yw eu hawliau
- Cynllunio ar gyfer argyfyngau
- Arwyddbostio i asiantaethau eraill
Atgyfeirio
Gall unrhyw un hunan-atgyfeirio i mewn i’r gwasanaeth cyn belled a’u bod yn 16+. Rydym hefyd yn cymryd atgyfeiriadau o sefydliadau eraill. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy
ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, ebostiwch alana.young@adferiad.org