Am y Prosiect
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Gofalwyr Gwent wedi ei leoli ar y wardiau oedolion ac oedolion hyn ar draws Gwent. Y deilliant tymor hir mae’r prosiect yn anelu i’w gyflawni yw i wella llesiant gofalwyr ac aelodau eraill y teulu ac, yn y pen, i gael effaith bositif ar iechyd y defnyddiwr gwasanaeth. Hefyd, rydym am i ofalwyr di-dâl deimlo bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gefnogi eu rôl gofalu ac i allu ystyried eu hanghenion eu hunain.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi gofalwyr ac/neu deuluoedd unigolion sydd â materion iechyd meddwl, neu ddementia.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r staff sy’n hwyluso’r caffis hyn yn darparu ystod o wybodaeth a chyngor sy’n berthnasol i ofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar gyflyrau iechyd meddwl, deddfwriaeth iechyd meddwl, cyfleoedd hyfforddi, Asesiadau Gofalwyr, a hawliau i fudd-daliadau. Mae’r deilliannau rydym yn anelu i’w cyflawni’n cynnwys:
• Gofalwyr sy’n teimlo wybodus ac yn fedrus
• Gofalwyr yn rhan o gynllunio a darparu’r gofal
• Gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt
• Bod gostyngiad mewn ynysiad cymdeithasol a bod mynediad i rwydweithiau cefnogaeth cymheiriaid
• Gofalwyr yn teimlo eu bod wedi eu grymuso ac yn ymgysylltu trwy gael llais wrth gynllunio’r gwasanaethau a’r gofal
• Gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y rôl maent yn ei gyflawni ac ag ymdeimlad o bwrpas
• Gofalwyr yn gallu ystyried eu hanghenion eu hunain
Atgyfeirio
Rydym yn cynnwys y pum sir ar draws Gwent ac mae angen i’r gofalwr fod dros 18 mlwydd oed. Derbynnir atgyfeiriadau gan y gofalwr a staff wardiau yn ogystal â thimau iechyd meddwl yn y gymuned.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost uchod.