Caffi Gofalwyr

Sir:

Ar hyd a lled Gwent

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9-5 Dydd Llun i Ddydd Gwener

Am y prosiect

Mae’r Caffi Gofalwyr yn seiliedig ar wardiau iechyd meddwl ar draws Gwent. Nod y gwasanaeth yw darparu gwybodaeth berthnasol I ofalwyr gan gynnwys gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, deddfwriaeth iechyd meddwl, cyfleoedd ar gyfer hyfforddi, Asesiadau Gofalwyr a’r hawl am fudd-daliadau. Mae’r uchod yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i ofalwyr i barhau yn eu rôl gofalu a chael bywyd eu hunain.
Mae Dewis Cil yn cynnig cymorth Eirioli ac mae’r cymorth Care Collective yn cefnogi’r wardiau oedolion hŷn.
Mae staff yn;

  • Cynnig gwybodaeth a chymorth i ofalwyr mewn argyfyngau.
  • Trefnu cyfarfodydd rhwng staff y ward a gofalwyr er mwyn hwyluso cyfathrebu a deall ei gilydd
  • Gweithredu fel eiriolydd er mwyn sicrhau bod llais y gofalwr yn cael ei glywed
  • Drwy’r caffi, yn cynnig cyfle i gefnogi ei gilydd a’n lleihau’r ymdeimlad o arwahanrwydd
  • Atgyfeirio ar gyfer Asesiadau Gofalwyr
  • Atgfyeirio at ffynonellau o gymorth

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Gofalwyr yr unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl gan gynnwys dementia

Adnoddau