Ffordd Salisbury

Sir:

Wrecsam

Manylion cyswllt

Ffôn:

01978 264770

E-bost:

wrexhamhousing@adferiad.org

Am y Brosiect

Mae Ffordd Salisbury yn brosiect llety â chymorth a ddarperir i breswylwyr mewn un lleoliad llety â chymorth ym mwrdeistref sirol Wrecsam sy’n profi salwch meddwl difrifol ac sydd ag anghenion cysylltiedig â thai. Mae’r prosiect cymorth hwn sy’n gysylltiedig â thai Wrecsam yn cael ei ddarparu dros saith diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd, ac mae’n cynnwys aelod o staff sy’n cysgu i mewn ac yn deffro dros nos. Mae’r prosiect hwn wedi bod o fudd i unigolion drwy eu galluogi i weithio ar eu sgiliau bywyd bob dydd. Y nod cyffredinol yw darparu cefnogaeth taprog fel y gall unigolion gynnal tenantiaethau tymor hir, gan dorri’r cylch digartrefedd a bregusrwydd a chaniatáu iddynt fyw’n annibynnol.

Rydym yn cefnogi unigolion 18 oed a hŷn sy’n profi salwch meddwl difrifol ac a allai fod ag anghenion dibyniaeth ar sylweddau. Mae ein llety â chymorth a rennir yn galluogi unigolion i fyw’n ddiogel ac yn dysgu sgiliau byw’n annibynnol gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaeth mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ym mhob rhan o’u bywyd, gan gynnwys:

• Cefnogaeth i reoli llety a theimlo’n ddiogel
• Help i wneud dewisiadau a chymryd risgiau cadarnhaol
• Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
• Cefnogaeth i ddod o hyd i, a chael mynediad at hyfforddiant ac addysg
• Cefnogaeth i ennill cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
• Cefnogaeth cyllidebu a materion ariannol, a chyfeiriad at gefnogaeth pellach
• Help gyda rheoli materion corfforol ac iechyd meddwl

Atgyfeirio

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau o Borth Cymorth Tai Cyngor Bwrdeisdref Sirol Wrecsam.

Os hoffech ofyn am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeiro gyda ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.