Am y Prosiect
Mae Cynllun Achredu Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru yn arf ar gyfer y gweithle ar gyfer sefydliadau sy’n ceisio datblygu a gweithredu arfer dda i sicrhau bod y gwasanaethau maent yn eu darparu yn gyfartal a theg. Mae Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Deyrnas Unedig yn wynebu anghydraddoldebau ac anghyfartaledd sy’n arwain iddynt i gael cyfleoedd salach ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus, a credwn fod gan sefydliadau ran allweddol i chwarae i oresgyn yr anghydraddoldebau hyn. Mae’r cynllun yn ffocysu ar ardaloedd o’r gweithle, yng Nghymru yn bennaf, o fewn sefydliadau, i ddatblygu eu cymhwysedd diwylliannol ac i archwilio’r rhagfarn anymwybodol a all arwain i driniaeth anghyfartal. Mae cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth rhagweithiol barhaus i gwblhau gweithlyfr tystiolaeth hunan-asesiad nes bydd ardystiad wedi ei gyflawni.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae cyfranogaeth yn y cynllun yn agored i sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector. Mae cyfranogwyr yn cynnwys elusennau iechyd meddwl a chamddefnydd sylweddau blaenllaw, pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac awdurdodau lleol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gefnogaeth a ddarparwn wedi ei theilwra i ardaloedd unigol o’r gweithle o fewn sefydliadau i sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd. Ar y cyfan, mae ein gwasanaeth yn rhoi’r arfau sydd eu hangen i ymarferwyr i sicrhau bod eu gwasanaethau yn gwasanaethu pobl mewn modd addas, gan sicrhau bod pwy bynnag sy’n dod i mewn drwy eu drysau yn cael eu trin gyda’r parch a’r urddas maent yn ei haeddu. Rydym hefyd yn sicrhau bod unigolion yn gweld bod y gwasanaeth maent yn ei gael yn gyfforddus ac yn cael ei gynnal mewn modd sy’n cyfarfod eu safonau. Y rheswm pam bod hyn yn bwysig yw oherwydd bod gennym cymaint o wahaniaethau o ran gwasanaethau iechyd meddygol ac ymddygiadol, yn ogystal â gwasanaethau sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill.
Atgyfeirio
Gweithiwn ar draws Cymru, yn ogystal â rhai rhannau o Loegr yn cynnwys Ynys y Garn. Mae cyfranogwyr yn cysylltu â ni drwy e-bost, ac wedi hynny byddwn yn trefnu cyfarfod i drafod eu hanghenion gyda nhw. Byddwn wedyn yn gyrru ffurflen gofrestru iddynt ac yn dechrau’r broses iddynt ddod atom.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch drwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.