Am y Prosiect
Wedi ei leoli yn Sir Fynwy a’i gyllido gan yr awdurdod lleol, mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth i’r Teulu’n anelu i gefnogi unrhyw aelod o’r teulu neu ofalwr person sy’n delio â salwch meddwl. Cefnogwn ofalwyr ac aelodau’r teulu i gael cyd-ddealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud â iechyd meddwl a’r effaith y gall ei gael ar bawb. Rydym hefyd yn darparu gofalwyr gyda’r celfi i helpu i reoli iechyd meddwl y rhai y gofelir amdanynt ac i roi’r wybodaeth i bobl fydd yn eu cynorthwyo i ddeall ac i lywio’r system iechyd meddwl. Mae hwn yn wasanaeth pwysig gan ei fod yn helpu i gyrraedd nodau fel teulu cyfan.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae hwn yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnwys Sir Fynwy gyfan. Gallwn gyrraedd gofalwyr a’r teulu yn eu cartrefi eu hunain neu o fewn y gymuned, megis canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, siopau coffi neu ofodau cymunedol eraill. O fewn ein gwasanaeth mae angen i’r rhai y gofelir amdanynt fod â chyflwr iechyd meddwl; nid oes angen i hyn fod yn ddiagnosis ffurfiol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cefnogwn ein gofalwyr trwy gynnig grwpiau gofalwyr a sesiynau galw i mewn trwy gydol y mis. Tra mae gennym y llefydd yma i bobl ddod iddynt, rydym hefyd yn wasanaeth allgymorth er mwyn i ni allu teithio i gartrefi gofalwyr neu i’w cymunedau. Gweithiwn gyda’r gofalwr a’r teulu i adnabod beth yw’r blaenoriaethau ac i ddechrau gweithio drwy’r rhain yn y modd gorau posibl i’r teulu. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, megis nodau ysgrifenedig neu ddefnyddio bwrdd negesueon fel ysbrydoliaeth gweledol i’r teulu i gyd. Trwy helpu gofalwyr a’u teuluoedd i gyflawni rhai o’u nodau, mae’n rhoi’r hyder iddynt i ymuno fwy gyda gweithgareddau cymunedol a grwpiau
cymdeithasol.
Atgyfeirio
Mae’n rhaid i’r rhai y gofelir amdanynt fod ag angen iechyd meddwl ac yn byw yn Sir Fynwy i gael mynediad i’n gwasanaeth. Gall atgyfeiriadau ddod drwy feddygon teulu, y trydydd sector neu hunan-atgyfeiriadau. Mae hyn ar gael drwy’r wefan.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda.