Am y prosiect
Mae gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd Sir Fynwy yn ceisio cefnogi unrhyw aelod o deulu neu ofalwr person sydd yn delio ag afiechyd meddwl. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys:
- Cefnogi gofalwyr ac aelodau teulu er mwyn rhannu dealltwriaeth o’r materion sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl a’r effaith y mae hyn yn medru ei gael ar bawb
- Darparu’r teclynnau iddynt er mwyn eu helpu i reoli iechyd meddwl y person y maent yn gofalu amdano.
- Rhoi gwybodaeth i bobl a fydd yn eu helpu i ddelio a llywio’r system iechyd meddwl.
- Gwella’r cyfathrebu rhwng aelodau teulu, yn eu caniatáu i fynegi ystod o emosiynau a cheisiadau mewn modd diogel ac adeiladol, gan gynnwys gofyn am yr hyn yr ydych angen a’n cael sgyrsiau anodd.
- Sicrhau bod Gofalwyr Sy’n Oedolion Ifanc yn parhau i dderbyn cymorth unwaith eu bod yn gadael y gwasanaeth Gofalwyr Ifanc
- Nodi amcanion a dyheadau’r gofalwr a’r person sydd yn derbyn y gofal.
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc y bobl hynny sydd â chyflwr iechyd meddwl.
Proses atgyfeirio agored a’n cynnwys Gofal Cynradd ac Eilaidd. Tîm Gofalwyr Ifanc.