Am y Prosiect
Mae Côr Un Galon Wrecsam wedi ei leoli yn Eglwys y Drindod yn Wrecsam ar ddydd Mercher o 11am i 1pm. Darparwn bryd bwyd poeth ar ddiwedd y sesiwn i bawb i aros ar ei gyfer. Mae’n wasanaeth pwysig, oherwydd fod ein côr yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer grymuso a thwf personol. Drwy rym therapiwtig ceddoriaeth, mae aelodau’n datblygu hyder, hunan-barch, ac ymdeimlad o bwrpas o’r newydd.
Mae’r effaith trawsnewidiol hwn yn amhrisiadwy, ac mae nid yn unig yn gwella llesiant yr unigolyn, mae hefyd yn cryfhau ffabrig y gymuned gyfan.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r Côr Un Galon yn cefnogi pobl dros 18 oed sydd ag amrywiaeth o anghenion sylfaenol, yn cynnwys iechyd meddwl, caethiwed, defnydd sylweddau, anawsterau dysgu a digartrefedd.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Darparwn gyngor ac arweiniad i’n aelodau sydd ar y siwrnai i adferiad, rydym yn arwyddbostio i asiantaethau eraill megis Cyfle Cymru, a gallwn wneud atgyfeiriadau i’n cwnselwyr ar y safle. Mae’n fuddiol i’r defnyddwyr gwasanaeth gan eu bod yn derbyn cefnogaeth o’u hatgyfeiriadau. Rydym yn cefnogi aelodau sydd â phroblemau iechyd meddwl, sy’n profi digartrefedd drwy, eto, gynnig cefnogaeth emosiynol ac arwyddbostio i asiantaethau perthnasol megis eu meddyg teulu, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl a Shelter.
Proses Atgyfeirio
Mae’n gôr cymunedol, gall unrhyw un ymuno a nid oes unrhyw ofynion i ymuno. Mae croeso i bawb.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, yna cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod os gwelwch yn dda.