Gwasanaeth Noddfa Ceredigion

Sir:

Ceredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

5yp – 2yb
Dydd Iau – Dydd Sul

Ffôn:

01970 629897

E-bost:

ceredigionsanctuary@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r Noddfa, sydd wedi ei leoli yn Aberystwyth, yn wasanaeth allan-o-oriau sy’n darparu cefnogaeth gyfannol person-ganolog, ymarferol a therapiwtig i bobl sydd mewn perygl o argyfwng iechyd meddwl yng Ngheredigion. Mae’r gwasanaeth wedi ei leoli mewn amgylchedd croeswagar a chartrefol gydag ardal fyw, cegin / ardal fwyta, cawod, a chyfleusterau golchi dillad. Mae hefyd ardaloedd distaw ar gyfer y rhai hynny sydd angen amser distaw neu gefnogaeth un-i-un. Anelwn i leihau mynediadau i’r ysbyty a lleihau y perygl o niwed i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Bydd diogelwch a llesiant yr unigolion yn cael eu hasesu’n llawn cyn iddynt ddychwelyd gartref, gydag atgyfeiriadau i wasanaethau eraill fel y bo’n briodol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn gefnogaeth i bobl 18 oed ac uwch sy’n byw yn Ngheredigion a all fod ar bwynt argyfwng neu’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl. Anelwn i gefnogi y rhai hynny sy’n profi anawsterau gydag unigrwydd, straen a gorbryder, hwyliau isel, neu unrhyw bryderon teuluol neu berthynas. Gall y Noddfa hefyd gefnogi gyda phryderon ariannol a helpu unrhyw un a allai fod yn dioddef gyda thrais yn y cartref.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn ofod diogel i bobl i siarad am y materion maent yn eu hwynebu. Mae amser lleiafsymiol i ddisgwyl am apwyntiad, ac rydym ar gael yn ystod oriau pan nad oes unrhyw wasanaethau eraill yn agored. Cynigiwn apwyntiadau wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn, am hyd at ddwy awr ar y tro ac hefyd yn arwyddbostio i wasanaethau eraill.

Atgyfeirio

Rydym yn wasanaeth mynediad agored: gallwch ein galw a bydd y staff yn cynnal asesiad triage i helpu i adnabod eich anghenion, gydag apwyntiad ar gyfer cefnogaeth yn cael ei drefnu wedyn.

Mae gennym ffurflen Atgyfeirio Proffesiynol hefyd; os ydych yn weithiwr proffesiynol ac yn dymuno gwneud atgyfeiriad ar ran unigolyn, yna cliciwch yma.