Menter Adnoddau Dinbych-y-Pysgod

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 4yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

01834 844177

E-bost:

tri@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae prosiect Menter Adnoddau Dinbych-y-Pysgod (TRI) yn ganolfan adnoddau a gweithgareddau sydd wedi ei leoli yng nghanol Dinbych-y-Pysgod. Mae’r prosiect yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i’w aelodau i allu ymlacio, i gael eu
clywed ac i gael cefnogaeth iechyd meddwl hanfodol pan mae ei angen. Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a chyrsiau, sy’n cynnwys cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gefnogaeth i bobl a allai fod yn profi problemau gyda’u iechyd meddwl, ac i’w teuluoedd, a’u gofalwyr.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein prosiect yn darparu tri prif wasanaeth. Mae ein gwasanaeth galw i mewn yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar ar gyfer rhai sydd angen i rhywun wrando arnynt neu eu cefnogi gyda’u hiechyd meddwl. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau gweithgareddau, sy’n ymwneud â llesiant a iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys ioga cadair, myfyrdod, sesiynau ffotograffiaeth, garddio, crefft, a sesiynau hwyliog cwis a bingo. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth un-i-un, sy’n cynnwys cefnogi aelodau gyda gwaith papur megis budd-daliadau, tai, ceisiadau, yn ogystal ag arwyddbostio i sefydliadau eraill ar gyfer cymorth arbenigol.

Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, doctoriaid, y Tîm Gofal Sylfaenol, neu ofalwyr.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, neu os hofech fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.