Am y prosiect
Mae gwasanaeth cymorth i deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi gwasanaethau ac yn hyrwyddo gwerthoedd y gofalwyr drwy ddarparu gwasanaeth sydd yn gynhwysol, yn cynnig gwybodaeth ac mae aelod staff lleol yn cynnig cymorth drwy ddulliau gwahanol gan gynnwys sesiwn 1-1 a bydd cyngor a chanllawiau ar gyfer gofalwyr a’u hanghenion.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn hwyluso grŵp cymorth i ofalwyr a fforwm gofalwyr gan gynnwys staff o’r bwrdd iechyd lleol a’r ysbytai.
O fewn y cyfarfodydd partneriaeth yma, bydd gofalwyr yn rhan o’r ymgynghoriad ac wrth wraidd yr hyn sydd yn cael ei benderfynu o ran y gwasanaeth gan gynnwys unrhyw weithgareddau y maent am gymryd rhan ynddynt neu’r teithiau grŵp y maent am fynd arnynt.
O ganlyniad i’r adborth, mae’r grŵp wedi ymweld gyda rheilffordd Aberhonddu a mynd am brydau o fwyd.
Mae’r gwasanaeth ar agor 48 wythnos y flwyddyn, ac mae llwybr atgyfeirio agored i ofalwr rhywun sydd ag angen iechyd meddwl. Dylid cynnal asesiad gofalwr ond mae modd i ni gefnogi’r gofalwr gyda hyn os nad yw wedi ei brosesu’n barod.
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Trigolion Pen-y-bont ar Ogwr sydd yn darparu gofal neu gymorth i bobl sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl.