Ein Harbenigedd
Os hoffech chi ddarganfod mwy am iechyd meddwl, defnydd sylweddau neu yn edych am hyfforddiant arbenigol i ymarferwyr, mae gennym ni cwrs i chi.
Darperir ein hyfforddiant i gyd mewn amgylchedd hamddenol, ar-lein neu wyneb yn wyneb, ble gall pobl deimlo’n ddigon cartrefol i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Mae Adferiad yn derbyn nifer cynyddol o geisiadau am hyfforddiant arbenigol mewnol, felly mae gennym flynyddoedd o brofiad o ddatblygu a darparu pecynnau ar gyfer sefydliadau’n benodol. Gellir teilwra pecynnau i anghenion y sefydliad.
Mae enghreifftiau o rai o’r cyrsiau pwrpasol yr ydym wedi’u darparu ar gyfer cwsmeriaid fel a ganlyn:
- Cyflwyniad i Ddefnyddio Sylweddau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol
- Cyffuriau Gwella Delwedd a Pherfformiad (IPEDS)
- Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad a phoblogaeth y carchardai
- Gweithio gydag angenion cymhleth ac amrywiol ymhlith nifer o rai eraill
Cyflwynir holl gyrsiau Adferiad gan hyfforddwyr cymwysedig sydd hefyd yn ymarferwyr â gwybodaeth ymarferol gyfredol o’r pwnc maent yn ei gyflwyno. Mae gan ein tîm dros 20 mlynedd o brofiad yn y meysydd defnydd o sylweddau a iechyd meddwl ac wedi bod yn darparu hyfforddiant ers 2007. Ein gallu i gysylltu deunydd pwnc i ddarpariaeth gwasanaeth o ddydd i ddydd sy’n gwneud ein hyfforddiant mor berthnasol a hygyrch i gynrychiolwyr.