Hyfforddiant

Hyfforddiant

Yn dilyn uno ein sefydliadau rhagflaenol, daeth Adferiad â thri thîm hyfforddi o dan un ymbarél. Golygai hyn fod tri thîm o arbenigwyr yn gweithio gyda’i gilydd erbyn hyn i hyfforddi staff i ddarparu ystod eang o wasanaethau o safon.

Defnyddiwn ein profiad i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer pob angen.

Darperir ein hyfforddiant i gyd mewn amgylchedd hamddenol, ar-lein neu wyneb yn wyneb, ble gall pobl deimlo’n ddigon cartrefol i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Mae Adferiad yn derbyn nifer cynyddol o geisiadau am hyfforddiant arbenigol mewnol, felly mae gennym flynyddoedd o brofiad o ddatblygu a darparu pecynnau ar gyfer sefydliadau’n benodol. Gellir teilwra pecynnau i anghenion y sefydliad.

Mae enghreifftiau o rai o’r cyrsiau pwrpasol yr ydym wedi’u darparu ar gyfer cwsmeriaid fel a ganlyn:

  • Cyflwyniad i Ddefnyddio Sylweddau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol
  • Cyffuriau Gwella Delwedd a Pherfformiad (IPEDS)
  • Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad a phoblogaeth y carchardai
  • Gweithio gydag angenion cymhleth ac amrywiol

Ymhlith nifer o rai eraill.

Hyfforddiant

Ein Harbenigedd: 

Cyflwynir holl gyrsiau Adferiad gan hyfforddwyr cymwysedig sydd hefyd yn ymarferwyr â gwybodaeth ymarferol gyfredol o’r pwnc maent yn ei gyflwyno. Mae gan ein tîm dros 20 mlynedd o brofiad yn y meysydd defnydd o sylweddau a iechyd meddwl ac wedi bod yn darparu hyfforddiant ers 2007. Ein gallu i gysylltu deunydd pwnc i ddarpariaeth gwasanaeth o ddydd i ddydd sy’n gwneud ein hyfforddiant mor berthnasol a hygyrch i gynrychiolwyr.

Adborth

Atebwyd pob cwestiwn gan gadw fy niddordeb ac yn dysgu drwy’r dydd. Roeddwn wrth fy modd, cyflwyniad angerddol ac addysgiadol. Dysgais lawer

Hoffais pa mor ryngweithiol yr oedd o. Roedd y grŵp yn ymgysylltu yn hytrach na dibynnu ar adrodd gwybodaeth o PowerPoint

Mae hwn yn hyfforddiant newydd sbon ac nid oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl ganddo. Cyflwynodd yr hyfforddwr ei hyfforddiant yn wych, gyda’r gymysgedd o theori a chydweithio gydag eraill yn dda iawn, gyda chydbwysedd da. Teimlaf fod gennyf yr arfau erbyn hyn i adeiladu ar fy rôl ddyddiol.

Hyfforddiant

Gwybodaeth Archebu 

Os hoffech ymholi ynghylch unrhyw sesiynau hyfforddiant wedi’u teilwra y mae gennych ddiddordeb ynddynt, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Cysylltwch â’r tîm ar: 

training@adferiad.org
01792 816600

Adnoddau iechyd meddwl a chaethiwed ar gyfer eich anghenion penodol

Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt.