Partneriaid

Partneriaid

Mae gan yr Elusen berthnasoedd helaeth gyda phartneriaid a rhanddeiliaid amrywiol er mwyn cyflawni ei nodau elusennol ac er budd ei grŵp cleientiaid. Mae Adferiad Recovery yn gweithio’n weithredol ac ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol, Byrddau Cynllunio Ardal, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, comisiynwyr pobl ifanc, darparwyr rheoli troseddwyr, cymdeithasau tai, prifysgolion, colegau, ac amrywiol elusennau annibynnol a chynghorau gwirfoddol yn cynnwys asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr.

Partneriaid

Mae Adferiad Recovery yn gweithio’n agos gyda’r Wales Alliance for Mental Health yng Nghymru a chyda Rethink, Mindwise (Gogledd Iwerddon) a Support in Mind Scotland fel rhan o Mental Health UK (mae Prif Weithredwr Adferiad Recovery yn Ymddiriedolwr yn MHUK), a chydag elusennau eraill cyffelyb ar draws Ynysoedd Prydain ar sail bwrpasol ac fel aelod o’r Mental Health Alliance. Mae Adferiad Recovery hefyd yn aelod o’r Global Alliance for Mental Illness Advocacy Networks (GAMIAN) ac â chynrychiolaeth ar lefel Bwrdd.

Partneriaid

Mae Adferiad Recovery yn aelod o Datblygu Cymru Gofalgar (DACW), cydgwmni o Gymru sy’n cynnig llawer o wasanaethau gwahanol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan broblemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau a phroblemau iechyd meddwl.

Mae Adferiad Recovery hefyd yn parhau ein partneriaeth gyda Mind Cymru i ddarparu’r rhaglen Amser i Newid Cymru sy’n herio, addysgu, ac yn mynd i’r afael â’r stigma a’r gwahaniaethu mewn iechyd meddwl. Bydd llwyddiant y rhagen hon yn cael ei ddatblygu ymhellach yn 2022/2023 fel rhan o’n hymgyrch i herio’r stigma sy’n ymwneud â chaethiwed.

Partneriaid

Diddordeb dod yn bartner?

Cysylltwch yma i siarad â’n tîm.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch Mwy