Daeth Dan i brosiect tai Adferiad wedi iddo dreulio cyfnod hir yn y carchar. Roedd caethiwedd i heroin wedi gwaethygu ei broblemau iechyd meddwl.
Ar ôl colli pob cysylltiad â’i deulu, gan gynnwys ei ddau fab, ymgysylltodd Dan â’r gwasanaeth camddefnydd sylweddau a chafodd ei roi ar bresgripsiwn amnewidyn opiadau, gan ei alluogi i ymatal rhag defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
Cyfeiriwyd Dan a chafodd ei hebrwng i’w apwyntiadau iechyd meddwl cymunedol, ble na allai edrych i fyny na siarad i ddechrau, a byddai’n dibynnu ar staff Adferiad i siarad ar ei ran.
Roedd gan Dan nifer o ddyledion heb eu talu ac yn ei chael yn anodd i’w talu. Gyda chefnogaeth mae Dan yn hawlio’r budd-daliadau cywir erbyn hyn, mae ganddo gynllun talu parhaus yn ei le ar gyfer ei ddyledion, ac mae wedi adeiladau perthynas gyda’i ddau blentyn sy’n eu harddegau. Symudodd i lety â chymorth, mae’n lleihau ei bresgripsiwn amnewidyn ac, erbyn hyn, yn gallu ymgysylltu’n llawn gyda’i weithiwr iechyd meddwl heb yr angen i gael rhywun gydag ef.
Dywedodd Dan: “Pan ddes i Adferiad i ddechrau roeddwn yn flin ac yn ofnus.
“Rwyf wedi bod yn gaeth i heroin am dros 20 mlynedd o’m mywyd ac mae hyn wedi arwain i mi wneud penderfyniadau gwael a arweiniodd fi i garchar. Collais gysylltiad gyda’n nheulu, ac roeddwn yn treulio’n amser yn nghwmni’r bobl anghywir.
“Mae Adferiad wedi’n nghynorthwyo i gael fy mywyd yn ôl ar y trywydd iawn ac er na fu’n hawdd, rwy’n berson hollol wahanol erbyn hyn. Rwy’n lleihau fy mhresgripsiwn, heb ddefnyddio heroin ers mwy na 12 mis, yn ymgysylltu gyda’r tîm iechyd meddwl (ac yn gallu edrych arnynt lygaid i lygaid), ac mae gennyf berthynas wych gyda fy mhlant ble rwy’n gallu eu cefnogi’n emosiynol ac yn ariannol. Rwyf wedi cael fy nhrwydded yrru’n ôl ac mae gen i gar, ond yn bwysicach fyth rwyf wedi newid fy mywyd, rwyf allan o’r carchar, a does gen i ddim bwriad o ddychwelyd yno.
“Diolch Adferiad am eich gwaith caled, eich penderfyniad a’ch dyfalbarhad gyda fi, byddai llawer i un wedi cerdded i ffwrdd.”