Am y Prosiect
Mae I Mewn i Waith yn wasanaeth cyflogaeth newydd, cyfannol sy’n darparu cefnogaeth gofleidiol i helpu pobl yn ôl i mewn i gyflogaeth. Anelwn i greu gofod ar gyfer unigolion i ganolbwyntio ar ddod o hyd i waith sy’n cael effaith bositif ar eu bywyd ac yn cefnogi eu siwrnai adferiad. Darparwn gefnogaeth wedi ei theilwra, gwella sgiliau, ymgysylltiad gyda chyflogwyr, ac yn blaenoriaethu llwyddiant hir-dymor. Mae ein gweledigaeth ar gyfer I Mewn i Waith yn syml ond yn uchelgeisiol: rydym eisiau newid y ffordd y mae pobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi i mewn i, ac yn y gwaith. Rydym wedi ein lleoli yn Wrecsam yn unig.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i bobl 16 oed ac uwch sy’n chwilio am gyflogaeth.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gwasanaeth I Mewn i Waith yn cynnig nifer o werthoedd ychwanegol arwyddocoal sy’n ei wahaniaethu mewn cefnogi unigolion gyda heriau iechyd meddwl sy’n chwilio am waith. Bydd y gwasanaeth yn gweithio i adnabod anghenion cefnogaeth ac yn creu cynllun gweithredu wedi ei deilwra i gefnogi rhywun yn ôl i mewn i waith. I gyd, rydym yn darparu cynllun cefnogaeth wedi ei deilwra o gwmpas arian, tai, hyder a chymhelliant; cymorth gyda chwblhau furflenni caise a llythyrau eglurhaol; cefnogaeth gyda chwilio am waith, yn cynnwys sefydlu cyfeiriadau e-bost a chofrestru gyda gwefannau swyddi, broceriaeth a chwilio am swyddi gwag; ac arwyddbostio i gyfleoedd hyfforddiant, yn cynnwys sgiliau Saesneg, Mathemateg a TGCh.
Atgyfeirio
Derbynnir atgyfeiriadau drwy Cyfle Cymru neu’n uniongyrchol i’r cyfeiriad e-bost uchod.
Os hoffech ofyn am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.