Prosiect Gamblo Menywod

Sir:

Cymru Gyfan

Manylion cyswllt

Ffôn:

01492 863000

E-bost:

cheryl.williams@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Ymwybyddiaeth Gamblo Menywod yn brosiect cymunedol sy’n anelu at wella ymwybyddiaeth o gefnogaeth triniaeth gamblo i fenywod a’r niwed y gall gamblo ei achosi. Rydym hefyd yn helpu i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â gamblo menywod ac yn cefnogi menywod a allai fod yn profi niwed gamblo i gael llais. Mae hwn yn wasanaeth pwysig gan ei fod yn helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau i fenywod sy’n dymuno cael mynediad i driniaeth a chymorth. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol cymunedol, i’w galluogi i adnabod arwyddion a symptomau niwed gamblo ac i wybod pa wasanaethau i arwyddbostio atynt.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Bydd unrhyw fenyw 18 oed ac uwch sy’n datgelu fod ganddynt broblem gamblo yn cael ei chyfeirio at ddarparwr triniaeth o’u dewis. Gall gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi cleientiaid benywaidd yn y gymuned gael mynediad i’r awr o hyfforddiant am ddim.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Amcangyfrifir bod cost niwed gamblo yng Nghymru rhwng 40-70 miliwn o bunnoedd y flwyddyn, a chydnabyddir bod llai o fenywod na dynion yn cael triniaeth a chymorth ar gyfer niwed gamblo. Am bob un person sy’n gamblo, mae hyd at chwech o bobl yn cael eu heffeithio; Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn codi ymwybyddiaeth i fenywod a effeithir gan niwed gamblo ac yn rhoi ymdeimlad o obaith iddynt fod adferiad yn bosibl. Gallai’r driniaeth a gynigir gynnwys cefnogaeth gymunedol neu breswyl, yn dibynnu ar angen y cleient.

Atgyfeirio

Mae’r rhaglen ymwybyddiaeth ar gyfer Cymru gyfan; bydd unrhyw driniaeth a chymorth naill ai’n cael eu darparu gan Adferiad neu gan ddarparwr Rhwydwaith Cymorth Gamblo Cenedlaethol (NGSN) yr ydym yn gweithio’n agos gyda hwy. Cwblheir y ffurflen atgyfeirio gan un o’r cydlynwyr prosiect.

Os hoffech ofyn am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.