Prosiect Cam Dau Conwy

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Ffôn:

07795 484114

E-bost:

bev.highton@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae prosiect Cam Dau Conwy yn darparu cymorth fel y bo’r angen ar draws Sir Conwy i unigolion sy’n profi iechyd meddwl gwael, digartrefedd, neu sy’n byw mewn llety dros dro. Mae’r prosiect wedi bod o fudd i unigolion drwy eu galluogi i ddeall tenantiaeth, darparu cefnogaeth i chwilio am gartref, a’u galluogi i weithio’n agos gyda’r swyddogion symud ymlaen o’r cyngor.

Ein nod cyffredinol yw darparu cymorth taprog fel y gall unigolion gynnal tenantiaethau tymor hir, torri’r cylch digartrefedd a bregusrwydd a’u galluogi i fyw’n annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Rydym yn cefnogi unigolion 18 oed a hŷn ar draws sir Conwy sy’n profi digartrefedd ac iechyd meddwl gwael, ac sydd wedi colli eu tenantiaeth.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cefnogaeth yn helpu cleientiaid i ddod yn fwy annibynnol ym mhob rhan o’u bywyd, gan gynnwys:

• Cefnogaeth i reoli llety a theimlo’n ddiogel
• Cefnogaeth i reoli perthnasoedd
• Helpu cleientiaid i wneud dewisiadau a chymryd risgiau cadarnhaol
• Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
• Cefnogaeth i gael mynediad at hyfforddiant ac addysg
• Cefnogaeth i ddod o hyd i gyflogaeth a gwaith gwirfoddol
• Cefnogaeth â materion cyllidebu ac ariannol, a chyfeiriad at gefnogaeth pellach
• Help gyda rheoli materion corfforol
• Help gyda rheoli iechyd meddwl

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau gan Dîm Llwybr Conwy; bydd hunangyfeiriadau at Adferiad hefyd yn cael eu hanfon i’r Llwybr cyn i ni asesu cymhwysedd.

Os hoffech ofyn am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â sharon.jones2@adferiad.org