Am y Prosiect
Mae Llwybr Adferiad wedi ei ddylunio i ddarparu ein cleientiaid gyda gwasanaethau wedi eu hunigoleiddio, sydd yn siwtio orau ar gyfer eu hanghenion. Trwy ein gwahanol unedau adferiad preswyl, gwasanaethau cymunedol, a phartneriaethau, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu ar gyfer pobl sydd angen help i fynd i’r afael â’u gamblo, cyflyrau sy’n cyd-ddigwydd a chaethiwed, gyda’r gefnogaeth orau bosibl. Fel rhan o’n Llwybr Gamblo, sydd wedi ei gyllido gan Gamble Aware, rydym wedi datblygu llwybr arbenigol sy’n cwmpasu pum cam allweddol triniaeth, gyda phob cam yn cael ei deilwra i anghenion unigol y person.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn bobl sydd yn 18 oed ac uwch sydd â heriau bywyd megis problemau iechyd meddwl, materion defnydd sylweddau, anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth. Rydym wedi ymuno â Gamble Aware a’r National Gambling Support Network i greu llwybr triniaeth i fynd i’r afael â chydforbidrwydd sy’n cyd-ddigwydd yn cynnwys alcohol, defnydd sylweddau a iechyd meddwl, mewn perthynas â chaethiwed i gamblo.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Ein cenhadaeth yw i ddod o hyd i adferiad cynaliadwy o ymddygiadau niweidiol. Darparwn ofal arbenigol i gleifion mewnol i frwydro caethiwed i alcohol, defnydd sylweddau a gamblo. Drwy gydol y broses hon, mae unigolion yn derbyn pecyn gofal wedi ei deilwra i’w galluogi i osod eu nodau, i adnabod rhwystrau posibl, i adeiladu eu cyfalaf adferiad, eu gwytnwch personol, a rheolaeth dyledion. Rydym yn gweithredu’r athroniaeth ‘dim drws anghywir’, gan drin gamblo a chaethiwed sy’n cyd-ddigwydd i fynd i’r afael â’r caethiwed ar yr un pryd, yn hytrach na’u trin fel problemau ar wahân.
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau o’r Deyrnas Unedig i gyd ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth gyda chaethiwed gamblo ar y cyd a chaethiwed arall.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i dragod y broses atgyfeirio gyda ni, yna cysylltwch trwy ddefnyddio’r ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.