Plas Parkland Gogledd Cymru

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

01492 203421

E-bost:

referrals@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Plas Parkand yn uned adsefydlu gyda 15 gwely wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru sydd wedi ei staffio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym yn cynnig adsefydliad i’r rhai hynny sy’n dioddef gydag alcoholiaeth, caethiwed i gyffuriau, gamblo, neu ymddygiadau niweidiol eraill. Cynigiwn fodel therapiwtig cyfeillgar, wedi ei deilwra, sy’n anghlinigol ac yn seiliedig ar un nod: i helpu ein gwesteion i newid eu bywydau.

Mae ein hymagwedd wedi ei deilwra sy’n anghlinigol ac yn seiliedig ar un nod: i helpu ein gwesteion i newid eu bywydau. Mae ein hymagwedd wedi ei theilwra yn  galluogi i fynd i’r afael â’r anghenion cymdeithasol a seicolegol sy’n sylfaen i’w caethiwed.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn gefnogaeth i unigolion 18 oed ac uwch o bob cefndir, sydd ag anawsterau gyda chaethiwed, hunan-barch isel sydd hefyd yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn ddadwenwyniad meddygol strwythuredig ar gyfer ein gwesteion cyn iddynt gychwyn ar eu siwrnai adferiad. Bydd ein tîm medrus yn helpu gwesteion i osgoi sbardunau, i ddatblygu strategaethau ymdopi newydd, ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd i wella eu llesiant. Darparwn sesiynau gwaith grwp, yn ogystal â sesiynau unigol un-i-un a chwnsela. Byddwn yn gweithio gyda gwesteion i’w paratoi ar gyfer y trawsnewid yn ôl adref, gan ffocysu ar amserlennu gweithgareddau a rhwydweithiau adferiad. Rydym hefyd yn darparu 14 diwrnod o alwadau lles yn dilyn eu rhyddhau a chwe sesiwn un awr o ôl-ofal, y gellir eu defnyddio dros y 12 mis nesaf.

Rydym hefyd yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol i’n cefnogaeth, gan gynnwys CBT, DBT, MCT, ymwybyddiaeth ofalgar a therapïau eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Atgyfeirio

Gall unigolion hunan-atgyfeirio a chyllido eu triniaeth yn breifat neu, fel arall, gellir ceisio am gyllid a  gwneud atgyfeiriad drwy eu hawdurdod lleol / darparwr gofal.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â:

Cydlynydd Atgyfeirio, Chelsea Campbell: 07580 365026 / chelsea.campbell@adferiad.org

Cydlynydd Atgyfeirio, Leah Morris: 07786 263631 / leah.morris@adferiad.org

Cydlynydd Atgyfeirio (Bank), Amy Griffiths-Lineen: 07436 561573 /amy.griffiths@adferiad.org

Pennaeth Cysylltiadau Marsnachol, Dan Bennett:  07813 318639 / daniel.bennett@adferiad.org