Caniad BIPCF

Sir:

Bro Morgannwg Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9am – 5pm Dydd Llun – Gwener

Ffôn:

07970 436 204

E-bost:

caniadcvuhb@caniad.org.uk

Am y Prosiect

Mae Caniad yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Nod y gwasanaeth yw rhoi cyfle i bobl sydd â phrofiad byw o wasanaethau iechyd meddwl, boed hynny’n uniongyrchol neu mewn rôl sy’n rhoi gofal, gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau. Rydym am sicrhau bod gan y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl lais.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda:

  • Cael y cyfle i gael llais a chael eich clywed
  • Gwybodaeth am wasanaethau cymorth
  • Cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau
  • Hyfforddiant
  • Cymryd rhan mewn recriwtio aelodau staff newydd
  • Cefnogaeth i gymryd rhan yn y broses hon
  • Cymhellion ar gyfer ymgysylltu a gyd-gynhyrchwyd

Mae Caniad ar gael ledled Caerdydd a’r Fro.

Mae nifer o grwpiau cyfranogiad presennol gyda mwy yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Proses Atgyfeirio

Gall y gwasanaeth gefnogi unigolion os ydynt:

  • wedi cael profiad o wasanaethau iechyd meddwl, boed yn uniongyrchol neu mewn swydd sy’n rhoi gofal
  • wedi cael profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • yn ofalwr neu’n aelod o deulu rhywun sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn neu sydd wedi eu defnyddio, yn ystod y tair blynedd diwethaf.
  • eisiau cyfrannu at wasanaethau a chefnogi gwelliant er lles pawb
  • dros 18 oed ac yn byw yng Nghaerdydd a’r Fro

I gael copi o’n ffurflen atgyfeirio, anfonwch e-bost neu ffoniwch. Unwaith y byddwch wedi cysylltu bydd un o’n tîm yn cysylltu â chi ac yn trefnu i gwrdd â chi. Yn y cyfarfod, byddwn yn dweud mwy wrthych am Caniad ac yn gofyn i chi am yr hyn yr hoffech gymryd rhan ynddo.