CAMFA i Bobl Ifanc – Cwnsela a Chymell ar gyfer Caethiwed

Sir:

Conwy Gwynedd Sir Ddinbych Sir Fflint Wrecsam Ynys Môn

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener
Apwyntiadau gyda’r nos ar gais

Ffôn:

01492 523690

E-bost:

enquiries@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae CAMFA14+ yn estyniad o’n gwasanaeth CAMFA, sy’n cefnogi pobl yn chwe sir Gogledd Cymru, sef Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n wasanaeth i bobl sy’n pryderu am eu defnydd cyffuriau ac / neu alcohol eu hunain ac angen cefnogaeth i barhau i fod yn rhydd o gyffuriau ac / neu alcohol. Rydym hefyd yn wasanaeth ar gyfer y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan ddefnydd sylweddau aelod o’r teulu.

Gellir darparu’r gwasanaeth hwn naill ai wyneb-yn-wyneb, ar-lein, neu dros y ffôn, rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng yr oriau 9yb a 5yp. Ond rydym hefyd yn cynnig rhai apwyntiadau gyda’r nos, i ddiwallu
anghenion pobl.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’n wasanaeth therapiwtig ar gyfer pobl 14 – 25 oed sydd angen ymyrraethau seicolegol arbenigol am ddefnydd sylweddau. Cynigiwn ystod eang o ymyrraethau, o gefnogaeth cwnsela un-i-un, cyfweld ysgogol, ac ymyrraethau byr estynedig i therapi gwybyddol ymddygiadol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Gellir cynnig hyd at 12 sesiwn o ymyrraethau seicolegol i gleientiaid i helpu gyda’u hadferiad. Mae gennym ystod o leoliadau ar gyfer darpariaeth wyneb-yn-wyneb yn y chwe sir yr ydym yn darparu ynddynt. Fel rhan o’r gwasanaeth, gall pobl gael atgyfeiriadau i mewn i’r grwpiau adferiad sy’n cynnwys MOIMR, Nudge a Pathways to Recovery, gwasanaethau eraill sy’n helpu pobl yn eu hadferiad. Gallwn gynnig arweinlyfrau hunan-gymorth a deunyddiau eraill fel yn briodol tra’n disgwyl nes bod therapydd ar gael, ac hefyd yn gallu arwyddbostio i wasanaethau eraill mewnol ac allanol yn ôl yr angen. Cynigir y gwasanaeth hwn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Atgyfeiro

I gael mynediad i’r gwasanaeth gallwch naill ai hunan-gyfeirio, neu wneud hynny trwy weithiwr proffesiynol, h.y. athro, meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol a.y.y.b., cyn belled a’i fod gyda chydsyniad y person ifanc a’ch bod yn byw yn un o chwe sir Gogledd Cymru, gyda meddyg teulu yn yr un ardal hefyd.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 03450 612112