Prosiect Iechyd Meddwl Conwy

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

07795 484114

E-bost:

bev.highton@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Prosiect Iechyd Meddwl Adferiad yn darparu cefnogaeth lle bo’r angen ar draws sir Conwy i unigolion sy’n profi iechyd meddwl gwael, sy’n ddigartref, neu’n byw mewn llety dros dro. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion trwy eu galluogi i ddeall tenantiaeth, darparu’r gefnogaeth angenrheidiol i chwilio am eiddo, a gallu gweithio’n agos gyda’r swyddogion symud ymlaen o’r cyngor. Ein nod cyffredinol yw i ddarparu cefnogaeth sy’n meinio i alluogi unigolion i gynnal tenantiaethau tymor hirach, i dorri’r cylchdro digartrefedd a bod yn agored i niwed a’u galluogi i fyw yn annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gefnogaeth i unigolion 18 mlwydd oed ac uwch ar draws sir Conwy. Cefnogwn y rhai hynny sy’n profi digartrefedd a iechyd meddwl gwael, sydd hefyd wedi colli eu tenantiaeth. Galluogwn yr unigolion hyn i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu llety presennol, hyd at symud i mewn i denantiaeth newydd.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn gefnogaeth mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd.

Mae hyn y cynnwys:
• Cefnogaeth i reoli llety ac i deimlo’n ddiogel
• Cymorth i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
• Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
• Cefnogaeth i adnabod a chael mynediad i hyfforddiant ac addysg
• Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
• Cefnogaeth ac arwyddbostio gyda chyllido, a materion ariannol
• Cymorth gyda rheoli materion corfforol a iechyd meddwl

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau gan Dîm Llwybr Conwy. Bydd hunan-atgyfeiriadau i Adferiad hefyd yn cael eu gyrru i’r Llwybr.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyferiad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â sharon.jones2@adferiad.org.