Am y Prosiect
Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf i ddod â diwedd i’r stigma a’r gwahaniaethu a brofir gan bobl sy’n byw â chyflyrau iechyd meddwl. Cawsom ein sefydlu yn 2012 ac, ers hynny, rydym wedi dod â newid mesuradwy i agweddau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae ein gwaith wedi ei seilio yn y gred na ddylai unrhyw un yng Nghymru orfod profi stigma iechyd meddwl yn unrhyw agwedd o fywyd. Mae Amser i Newid Cymru yn y safle perffaith i arwain y drafodaeth gyhoeddus o gwmpas stigma iechyd meddwl ac mae’n helpu i siapio polisi ac ymgyrchu dros newis cymdeithasol parhaus.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae pobl ledled Cymru sydd 18 oed ac uwch gyda phrofiad o broblemau iechyd meddwl yn greiddiol i’n hymgyrch, gan weithredu fel ein gwirfoddolwyr a’n pencampwyr. Mae ein safle unigryw fel mudiad cymdeithasol yn ein galluogi i gynnull cannoedd o unigolion, cyflogwyr a chymunedau ar draws Cymru i ddod at ei gilydd fel llais cyfunol yn erbyn stigma iechyd meddwl. Ein nod yw i roi diwedd ar wahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru – ond i wneud hyn, rydym angen cymorth ar lefel unigol a sefydliadol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae Pencampwyr Amser i Newid Cymru yn herio stigma yn eu cymunedau eu hunain, yn ymgyrchu ar y cyfryngau, ac yn rhannnu eu storïau gyda chyflogwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion, prifysgolion, a grwpiau ieuenctid. Dyma fideo o’n Hyrwyddwyr yn rhannu am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud.Rydym hefyd yn annog cyflogwyr i gymryd yr Addewid Sefydliadol, gyda buddion yn cynnwys: Sefydlu cwmnïau fel eiriolwyr dros well iechyd meddwl, a chanfod ac ymyrraeth gynnar. Cliciwch i ddysgu sut mae’r addewid wedi helpu Melin Homes, sefydliad sydd wedi ymrwymo i addewid Amser i Newid Cymru, i lunio ei bolisïau a’i brosesau, gan gael effaith gadarnhaol ar staff ar bob lefel o’r sefydliad.
Mae Amser i Newid Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli mewn partneriaeth rhwng Adferiad a Mind Cymru.
Atgyfeirio
Gall unrhyw un 18 oed neu uwch ddod yn bencampwr, ac rydym yn ymgysylltu gydag unigolion, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru. Os hoffech fwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad e-bost uchod, neu ewch i’n gwefan.