Am y Prosiect
Mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth Rhyddhau i Ofalwyr a Chefnogaeth Rhyddhau Allgymorth Cymunedol yn cynnig cefnogaeth i ofalwyr cleifion mewnol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ac Ysbytai Cymunedol De Sir Benfro. Mae ein gwasanaethau yn sicrhau fod llais ein gofalwyr yn cael ei glywed drwy’r broses cynllunio rhyddhau ac wedi rhyddhau y claf trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor, arwyddbostio, ac atgyfeiriadau. Mae’r Allgymorth Cymunedol o fudd i ofalwyr trwy eu helpu i gael mynediad i gefnogaeth o fewn y gymuned i helpu i gynnal eu hiechyd a’u llesiant eu hunain fel gofalwr.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn ofalwyr sy’n oedolion (18 ac uwch) sy’n gofalu am glaf mewnol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg neu Ysbytai Cymunedol De Sir Benfro. Gall y Gwasanaeth Cefnogaeth Rhyddhau o’r Ysbyty i Ofalwyr gefnogi gyda sgyrsiau, mewnbwn i ofal cleifion, a chynllunio rhyddhau trwy gefnogi’r gofalwr mewn cyfarfodydd rhyddhau. Mae’r Gefnogaeth Rhyddhau Allgymorth Cymunedol ar gael wedi rhyddhau y claf, ac yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor, arwyddbostio ac asesiadau gofalwyr cymunedol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gefnogaeth rydym yn ei gynnig wedi ei deilwra ac yn berson-ganolog o amgylch gofalwr ac anghenion y gofalwr. Cynigiwn wybodaeth, help a chyngor i ofalwyr drwy gydol y broses o ryddhau o’r ysbyty. Bydd y Swyddog Rhyddhau i Ofalwyr hefyd yn gallu mynychu cyfarfodydd rhyddhau gyda’r gofalwr, a’r Staff Cefnogol Cefnogaeth Rhyddhau Allgymorthyn gallu ymweld â’r gofalwr yn y cartref yn dilyn y rhyddhau o’r ysbyty i sicrhau fod y gefnogaeth yn ei le ac i ddarparu cefnogaeth
bellach i ofalwyr.