Am y Prosiect
Nod Caniad yw i gyflawni gwell iechyd a llesiant i’n cleientiaid, gofalwyr a’u cymunedau, trwy greu partneriaeth effeithiol rhwng cleientiaid, darparwyr gwasanaeth a chomisiynwyr ar draws Gogledd Cymru.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae Caniad yn cyfrannu i ddarparu tegwch yn y gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru trwy alluogi cleientiaid a gofalwyr i gymryd rhan lawn yng nghynllunio, comisiynu, dylunio, darparu agwerthuso’r gwasanaethau hynny.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae Caniad yn cefnogi unigolion trwy arwyddbostio i wasanaethau perthnasol a thrwy gasglu gwybodaeth yn ymwneud â darpariaeth gwasanaeth. Rydym hefyd yn cefnogi darparwyr gwasanaeth sy’n wynebu rhwystrau cludiant neu ddigidol.
Atgyfeirio
Dylai cleientiaid Caniad naill ai fod triniaeth ar gyfer defnydd sylweddau, neu fod wedi cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y dau-tri blynedd diwethaf. Derbynnir hunan-atgyfeiriadau hefyd, neu atgyfeiriad trwy weithiwr.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod.