News     25/03/2022

Blog Jo: Y Sinderela Newydd

Dros y blynyddoedd, mae llawer iawn o ymgyrchwyr fel fi wedi disgrifio iechyd meddwl fel gwasanaeth  “Sinderela” o’i gymharu gyda’r gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i broblemau iechyd corfforol. Ond nid yw’r disgrifiad hwn wedi ei ddefnyddio rhyw lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny oherwydd bod llywodraethau’r DU a Chymru wedi cydnabod y broblem a bod yna gynnydd gwirioneddol wedi ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd.

Mi fyddem yn honni bod yna gryn ffordd i fynd ond rwy’n cydnabod ein bod wedi ennill y ddadl ond mae dal angen sicrhau bod yna gynnydd yn cael ei wneud

Ond mae yna Sinderela newydd erbyn hyn sydd wedi ei gadael gartref ac yn glanhau’r lloriau: wrth hyn, rwy’n golygu’r cleifion mwyaf bregus gydag afiechyd meddwl difrifol.

Un o’r rhesymau pam fod iechyd meddwl wedi dod yn  rhywbeth sydd wedi ei gydnabod yw bod y stigma wedi lleihau. Yn gyffredinol, mae’r cyhoedd dipyn yn fwy tosturiol tuag at bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan nad yw’n rhywbeth sydd yn atal gyrfaoedd mwyach pan fydd y sêr yn datgan yn gyhoeddus eu bod yn profi heriau iechyd meddwl. Mae’n wych a dylem  oll ddathlu’r cynnydd sydd yn cael ei wneud tra’n parhau gyda’r gwaith da.

Ond mae’r diddordeb cyhoeddus a’r trafodaethau yma hefyd wedi creu problem. Mae’n ormod o demtasiwn i bobl symud o gydnabod bod iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n destun pryder i bawb i feddwl fod gwasanaethau iechyd meddwl yn medru helpu pawb – neu o leiaf mwy o bobl. Ond mae hyn gasgliad  ffug  a pheryglus.

Mewn gwirionedd, os yw unigolion, teuluoedd, ysgolion a chyflogwyr yn cymryd mwy o ofal o les meddwl pobl ac yn eu helpu  pan eu bod yn profi problemau iechyd meddwl lefel is, yna dylai hyn leihau’r angen am wasanaethau iechyd meddwl, nid cynyddu atgyfeiriadau. Ond mae’r gwrthwyneb yn digwydd.

Mae’r sefyllfa wedi ei chymhlethu gan y pandemig  Covid. Mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o atgyfeiriadau ac mae hyn i’w ddisgwyl. Ond arhoswch am eiliad: ai gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yw’r bobl gywir i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan y gorbryder a’r  tarfu a achoswyd gan Covid? Nage’n wir –  ac eithrio mewn rhai achosion prin  – fel arfer, mae’r bobl yma eisoes yn meddu ar broblemau iechyd meddwl (ac maent wedi eu  heffeithio’n andwyol yn barod gan y ffaith fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi eu tynnu nôl a’u haflonyddu yn ystod Covid).

Felly, pam fod y cynnydd mewn atgyfeiriadau yn broblem? Gadewch i mi geisio esbonio:

  • Mae’n wael i bobl sydd yn cael eu hatgyfeirio’n ddiangen oherwydd maent yn wynebu oedi hir a naill ai’n cael eu hatgyfeirio yn ôl at ffurfiau eraill o gefnogaeth neu (yn waeth) yn derbyn triniaeth na sydd angen arnynt
  • Mae’n wael i bobl sydd angen gwasanaethau arbenigol oherwydd maent yn wynebu oedi hir (yn gorfod cystadlu gyda’r atgyfeiriadau diangen) ac mewn peryg o ganlyniad i hyn. A phan eu bod yn derbyn gwasanaethau, nid oes digon o adnoddau ar gael gan fod y cyllid cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl a fyddai’n elwa yn fwy gan bobl na sy’n arbenigwyr.

Felly, mae’n sefyllfa lle y mae “pawb ar eu colled”.

Ac mae rhywbeth hyd yn oed mwy  difäol am hyn oll. Y gwirionedd yw nad yw pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, yn enwedig y sawl sydd mewn ysbytai neu garchardai gyda symptomau seicotig, yn cydweddu gyda’r ddelwedd boblogaidd o iechyd meddwl – sef y sêr sydd yn datblygu problem sydd o dan reolaeth neu’r sawl o blith y dosbarth canol yn cymharu canhwyllau ymwybyddiaeth ofalgar mewn parti.

A wnes i ddweud fod y stigma yn lleihau? Mae’r frwydr yn parhau ar gyfer y rhai sydd yn fwyaf bregus – a byddaf yn trafod hyn eto gyda’r syniadau am sut i sicrhau eu bod hwy hefyd yn cael mynd i’r ddawns.

Yn y cyfamser, llongyfarchiadau i’m ffrindiau yn Adferiad Recovery sydd wedi amlygu’r driniaeth annheg sy’n cael ei rhoi i’r sawl ag anghenion uchel: ewch i ddarllen yr ymateb i ymgynghoriad y Senedd ar anghydraddoldebau iechyd meddwl sydd ar gael yma.

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl sydd wedi ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am fwy na 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd peth o’r driniaeth honno’n yn hynod annymunol ac wedi ei dychryn. Mae Jo yn ymgyrchu o blaid Deddf Iechyd Meddwl  flaengar sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi bargen deg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.