News     23/02/2022

Ymestyn rhaglen iechyd meddwl Amser i Newid Cymru am dair blynedd

Heddiw, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod ymgyrch sy’n helpu pobl i siarad am iechyd meddwl a rhoi terfyn ar wahaniaethu wedi cael £1.4m yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall.

Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi heddiw y bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Amser i Newid Cymru yn sicrhau bod modd ymestyn y rhaglen tan 2025.

Nod canolog Amser i Newid Cymru yw herio a newid agweddau ac ymddygiadau negyddol tuag at salwch meddwl. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: partneriaethau, cyflogwyr a’r gweithlu, iechyd a gofal cymdeithasol, a marchnata cymdeithasol. Mae’r ymgyrch yn cael ei chyflwyno gan bartneriaeth rhwng dwy elusen flaenllaw yng Nghymru, sef Adferiad Recovery ac Mind Cymru.

Bydd y cyfnod newydd o waith yn canolbwyntio’n benodol ar weithio gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chyflogwyr mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd. Yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae’r rhaglen wedi canolbwyntio ar gynyddu cysylltiadau â dynion drwy’r ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig, yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n cymryd rhan.

Un rhan allweddol o Amser i Newid Cymru yw cydweithio â chyflogwyr i greu diwylliannau sy’n fwy agored i drafod iechyd meddwl yn y gwaith, yn ogystal â rhoi adnoddau ymarferol iddynt gan gynnwys hyfforddiant a Phecyn Cymorth i Gyflogwyr.

Mae oddeutu un o bob pedwar gweithlu yng Nghymru wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch eisoes, gan gynrychioli oddeutu 320,000 o weithwyr. Mae’r sefydliadau sydd wedi ymuno yn cynnwys sefydliadau’r trydydd sector, pedwar heddlu Cymru, yr holl fyrddau iechyd, cwmnïau preifat a Busnesau Bach a Chanolig.

Un cwmni sydd wedi ymrwymo i’r adduned Amser i Newid Cymru yw cwmni Safety Letterbox Company Ltd yng Nghastell Nedd, sy’n cyflogi 60 o bobl o’r ardal leol.

Ymrwymodd y cwmni i’r ymgyrch ym mis Awst 2021. Mae’r cwmni wedi ymrwymo i flaenoriaethu lles meddyliol eu gweithwyr gan gynnal gweithgareddau llesiant a sefydlu polisi drws agored i drafod llwyth gwaith ac iechyd meddwl.

Hyd yma, mae ganddynt naw o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl sy’n chwarae rhan allweddol o ran cefnogi’r gweithlu.

Dywedodd Alison Orrells, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr Safety Letterbox Company Ltd: “Ein nod yw creu diwylliant agored, cefnogol a chydweithredol er mwyn galluogi pobl i ddisgleirio a ffynnu, i gymryd perchnogaeth ac i wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn berthnasol i bawb.

Rydyn ni am ddileu unrhyw stigma ynglŷn ag iechyd meddwl yn y gweithle er mwyn ein galluogi i gefnogi ein gweithwyr a rhoi ein gorau iddynt gan eu gwneud i deimlo’n gyffyrddus a’u galluogi i weithio’n ddiogel, yn rhwydd ac yn llwyddiannus.

Mae 20% o’n gweithlu yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn ymrwymiad i’n galluogi i fod yn ymwybodol o amgylchiadau ein gweithwyr, i helpu a chefnogi’n gweithwyr gystal ag y gallwn.

Mae llofnodi’r adduned Amser i Newid yn cadarnhau ein hymrwymiad tuag at iechyd meddwl yn y gweithle i’r rhai hynny yn ein busnes ac i unrhyw un sy’n ystyried gweithio gyda ni. Mae gan bawb iechyd meddwl. Rydym yn dymuno gweld pobl yn disgleirio, yn gwneud yn dda, a’u bod yn teimlo’n gyffyrddus ac yn gallu canolbwyntio yn eu swydd. Drwy sicrhau hynny, mae hyn o gymorth i’n busnes ac mae angen inni felly wneud beth bynnag y gallwn i alluogi pawb i ffynnu.”

Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Amser i Newid Cymru hefyd yn sicrhau bod modiwl dysgu newydd ac arloesol yn cael ei gyflwyno ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwella profiadau cleifion. Mae hyn yn dilyn treial llwyddiannus yn ystod 2021-22.

Yn ogystal, bydd Amser i Newid Cymru yn parhau i recriwtio Eiriolwyr sydd â phrofiad o salwch meddwl. Mae’r rhain yn rhoi cymorth i eraill rannu eu straeon yn ogystal â rhoi cyflwyniadau a hyfforddiant gwrth-stigma i grwpiau cymunedol, gweithleoedd a sefydliadau. Hyd yma, mae dros 50 o eiriolwyr yn gweithio ledled Cymru.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Rwy’n falch ein bod yn gallu sicrhau cyllid ychwanegol i helpu ymestyn Amser i Newid Cymru. Mae’r prosiect o gymorth i roi terfyn ar wahaniaethu yn ogystal ag annog pobl i gael sgyrsiau agored a gonest ynglŷn ag iechyd meddwl. Mae’r pedwar maes y mae Amser i Newid Cymru yn eu cefnogi yn sicrhau cyfleoedd gwych i rannu arferion gorau ar draws sawl agwedd ar ein bywydau dyddiol.

Rydym yn gwybod bod y pandemig wedi cael effaith anghymesur ar y rhai hynny o gymunedau Du ac Ethnig Leiafrifol ac rwy’n falch y bydd Amser i Newid Cymru yn canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau gan ddefnyddio’r cyllid newydd hwn.

Mae nifer ohonom yn treulio llawer o’n bywyd dyddiol yn y gwaith felly mae’n hollbwysig ein bod yn creu amgylcheddau gwaith sy’n cefnogi unigolion pan fyddan nhw’n wynebu salwch, boed hynny’n salwch meddyliol neu gorfforol. Rwy’n falch o glywed am brofiad Safety Letterbox Company a’r modd y mae Amser i Newid Cymru wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gweithle. Mae’n wych gweld ymrwymiad enfawr ganddynt fel cyflogwyr tuag at gefnogi llesiant eu staff.

Rwy’n gobeithio y bydd y cyllid sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn datblygu’r momentwm y mae Amser i Newid Cymru wedi’i gyflawni eisoes.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae iechyd meddwl da yn gwbl hanfodol i alluogi pobl i fyw bywydau iach, hapus a bodlon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i fynd i’r afael â’r stigma annerbyniol a’r gwahaniaethu sy’n wynebu pobl sy’n dioddef o salwch meddwl.

Rwyf felly yn hynod o falch bod yr ymgyrch bwysig hon yn cael ei hymestyn. Bydd ganddi ffocws penodol ar lesiant pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ogystal â mewn gweithleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Er ein bod wedi sicrhau cynnydd da, mae mwy o waith i’w wneud er mwyn sicrhau ein bod yn creu Cymru sy’n iachach, yn decach ac yn fwy ffyniannus y mae pawb ohonom eisiau ei gweld. Mae Amser i Newid Cymru yn hanfodol i’n helpu yn ein hymdrechion i gyflawni’r uchelgais hwnnw.”

Dywedodd June Jones, Rheolwr Dros Dro Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous a phwysig i Amser i Newid Cymru wrth inni baratoi i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu mewn cymunedau o amddifadedd cymdeithasol a chymunedau ethnig lleiafrifol. Gyda chefnogaeth ein Heiriolwyr, Sefydliadau a phartneriaid sydd wedi ymrwymo i’r adduned, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi llwyfan i leisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed ar hyn o bryd yn ogystal â gwella’r ddealltwriaeth ynglŷn ag iechyd meddwl ar draws pob ardal yng Nghymru. Mae mynd i’r afael â stigma yn allweddol i sicrhau bod gan bobl ledled Cymru iechyd meddwl gwell a’u bod yn cael cymorth iechyd meddwl gwell. Yn sgil hyn, byddwn yn datblygu rhaglen sy’n sicrhau y gall pawb elwa yn gyfartal o waith gwrth-stigma iechyd meddwl Amser i Newid Cymru.”