Clôs Peregrine

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun – Dydd Gwener (Dwy awr bob dydd ar gyfer pob fflat)

Ffôn:

01437 763346

E-bost:

gloucesterterrace@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Clôs Peregrine yn cynnwys pedwar fflat deiliadaeth sengl, wedi eu lleoli yn Hwlffordd, y mae Adferiad yn eu rhentu gan Gymdeithas Tai Ateb. Darperir gefnogaeth gan Dîm Gofal Cartref adran Tai Adferiad rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r prosiect hwn o fflatiau ‘camu i lawr’ yn darparu llety â chefnogaeth dros dro i unigolion sydd â phrif angen o iechyd meddwl sydd wedi dioddef gyda salwch meddwl difrifol ac angen cefnogaeth lefel is sy’n gysylltiedig â llety ac yn agos i fyw’n annibynol yn hyderus ac yn gymwys. Ethos y prosiect yw i ddeiliaid gael perchnogaeth a balchder o greu lleoliad cartref cyfforddus.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’r prosiect yn darparu llety â chefnogaeth dros dro i bedwar unigolyn mewn fflatiau deiliadaeth sengl sydd wedi profi salwch seiciatrig ac angen cefnogaeth gyda chamau olaf eu hintegreiddio yn ôl i’r gymuned. Mae Clôs Peregrine yn darparu cefnogaeth bum diwrnod yr wythnos (yn eithrio penwythnosau a gwyliau’r banc), gyda phob deiliad yn derbyn hyd at ddwy awr y dydd o gefnogaeth. Mae Clôs Peregrine yn darparu cefnogaeth lefel isel iechyd meddwl a thai ar gyfer yr unigolion.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae Clôs Peregrine yn gyfle unigryw i unigolion i fyw’n annibynol gyda’r lleiafswm o gefnogaeth. Gall cefnogaeth gynnwys: galluogi unigolion i gynnal tenantiaeth ac i ddysgu cyfrifoldebau ar gyfer tenantiaethau’r dyfodol, hyrwyddo ymgysylltiad mewn gweithgareddau ystyrlon o fewn y gymuned leol, gweithgareddau cymdeithasol, a chwilio am gyfleoedd mewn gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg. Rydym hefyd yn grymuso unigolion i ofyn am gefnogaeth ac yn darparu cefnogaeth i atal atgwympiadau.

Atgyfeirio

I fod yn gymwys i fyw yng Nghlôs Peregrine, mae’n rhaid bod o dan ofal y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gyda phrif angen o salwch meddwl difrifol ac angen cefnogaeth sy’n gysylltiedig â llety.
Mae’r broses atgyfeirio fel a ganlyn:

Cysylltu gyda Marie Balchin (Rheolwr Gwasanaeth Tai Sir Fynwy) neu Michelle Miscisz (Rheolwr Cofrestredig Adferiad Recovery) a fydd yn danfon ffurflen atgyfeirio sydd angen ei chwblhau a’i danfon at Marie a Michelle gyda Chynllun Gofal a Thriniaeth cyfredol ac Asesiad Risg.

Bydd y gwaith papur yn cael ei adolygu gan y Rheolwr Gwasanaeth, Rheolwr Cofrestredig a Chyfarwyddwr Cyswllt y Gwasanaethau Cofrestredig. Os yw’r prosiect yn medru diwallu eich anghenion cymorth, bydd y Rheolwr Gwasanaeth yn gwneud trefniadau i gwrdd â chi a’ch Cydlynydd Gofal er mwyn dechrau cynllun cymorth, ymweld gyda’r fflat a chytuno ar ddyddiad ar gyfer symud i mewn.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.