News     22/12/2021

Ymgyrch gwrth-sbeicio Adferiad Recovery

Ymgyrch gwrth-sbeicio Adferiad Recovery

Mae’r mater o sbeicio yn broblem sy’n gymharol yn cael ei dan-adrodd sy’n effeithio nifer fawr o bobl. Dros gyfnod y gwŷl wnaeth Adferiad Recovery lansio ei ymgyrch gwrth-sbeicio i helpu codi ymwybyddiaeth am y mater ac i annog pobl i gymryd rhagofalon a chadw eu hunain yn ddiogel.

Mae ‘sbeicio’ pan mae person wedi ychwanegu alcohol neu gyffuriau i’ch diod, yn rhoi pigiad i chi gyda chwistrell, neu’n fwy anaml, yn rhoi rhywbeth yn eich sigarét neu’ch e-sigarét, a hynny heb i chi wybod. Gall cael eich sbeicio arwain at ganlyniadau difrifol ar eich iechyd a’ch lles a gall eich gwneud chi’n hynod agored i gamdriniaeth, ac felly mae hi’n bwysig i godi ymwybyddiaeth am y mater er mwyn lleihau’r risg o niwed.

Mae gennym ni i gyd yr hawl i wybod yn union beth rydym yn rhoi yn ein cyrff, a trwy sbeicio diod neu sigarét/e-sigarét rhywun neu roi pigiad iddyn nhw heb eu caniatâd rydych yn torri ar eu hawliau dynol yn ogystal â chyflawni trosedd, sy’n gallu cario dedfryd o hyd at 10 mlynedd yn y carchar.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gogledd Cymru Adferiad Recovery, Naomii Oakley: “Mae sbeicio yn fater difrifol gall cael effeithiau sy’n para hir tymor ar y dioddefwr. Gall sbeicio digwydd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae yna risg gynyddol dros gyfnod y gwŷl wrth i fwy o bobl mynd allan i ddathlu mewn lleoliadau cyhoeddus.

“Mae’n bwysig i nodi bod unrhywun yn gallu bod yn ddioddefwr o sbeicio, beth bynnag yw eu rhyw, ethnigrwydd, oed neu rywioldeb, ac felly mae’r ymgyrch yma yn anelu i godi ymwybyddiaeth o’r mater er mwyn helpu pobl deall y risgiau sy’n gysylltiedig â sbeicio a beth i wneud os maen nhw’n feddwl bod nhw, neu rywun maen nhw’n nabod, wedi cael ei sbeicio i helpu lleihau’r niwed lle gallwn ni.”

Fel rhan o’r ymgyrch rydym wedi cynhyrchu poster, sydd ar gael i brintio am ddim i arddangos mewn lleoliadau trwy gysylltu â Claire Jones trwy ebost: claire.jones@adferiad.org

Rydym hefyd wedi cynhyrchu fideo hyfforddi byr y gellir ei weld yma.