Campaigns     12/05/2023

2023 – Mae’n amser i gymryd y llyw!

2023 – Mae’n  amser i  gymryd  y llyw!

Ymgyrch Costau Byw Adferiad Recovery 2023

 

Pam yr ymgyrch yma?

Mae Adferiad Recovery yn ymateb i’n rhanddeiliaid (cleientiaid, teuluoedd, staff a gwirfoddolwyr) sy’n rhannu un brif flaenoriaeth ar gyfer 2023 a thu hwnt – sef sut i oroesi’r argyfwng costau byw yn ddiogel ac mewn iechyd da.

Beth yw’r broblem?

Mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn wynebu chwyddiant ar lefelau nas gwelwyd yn ystod oes llawer o bobl. Gwaethygir hyn gan chwyddiant sylweddol uwch mewn prisiau tanwydd. Dim ond yn rhannol y lliniarir hyn gan ymyrraeth y llywodraeth yn y pris a grantiau ychwanegol ar gyfer rhai aelwydydd a grwpiau penodol. Rhennir yr her hon gan ein rhanddeiliaid.

Roedd grŵp cleientiaid Adferiad eisioes yn wynebu problemau ariannol sylweddol cyn i’r argyfwng presennol godi. Roedd nifer eisioes ar incwm isel, ar lefel prin ddigonol y Credyd Cynhwysol neu’n agos i hynny. Iddynt hwy, mae’r argyfwng costau byw yn dod â’r heriau ychwanegol o ansicrwydd a phryder ond hefyd caledi diriaethol, yn enwedig i’r rhai hynny nad yw’r cymorth ychwanegol sydd wedi ei ddarparu yn ddigonol i wneud yn iawn yn llawn am y biliau uwch am danwydd, bwyd ac angenrheidion eraill.

Problem arall i’n grŵp cleientiaid yw fod llawer yn ofidus a phryderus eisioes oherwydd problemau iechyd meddwl a chaethiwed – sy’n ei gwneud yn anodd iddynt i asesu eu sefyllfa ac i gynllunio eu llwybr drwy’r misoedd sydd o’u blaenau. Felly, mae perygl y bydd diffyg adnoddau gwirioneddol yn cael ei waethygu fwyfwy oherwydd eu bod yn ei chael yn anodd i greu cynllun.

Beth yw pwrpas yr ymgyrch?

I ymgyrchu dros weithrediad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, y GIG, ac eraill i gefnogi ein grŵp cleient, ac i ddarparu cefnogaeth ymarferol a phersonol i alluogi pobl i gymryd rheolaeth o’u sefyllfa eu hunain ac i fordwyo eu llwybr drwy’r argyfwng hwn a thu hwnt. Byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod gofalwyr a’u teuluoedd yn cael cefnogaeth lawn.

Pwy yw ein partneriaid?

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y Deyrnas Unedig a Chymru sy’n rhannu nodau ein hymgyrch, yn cynnwys Carers Wales a’r St Giles Trust.
Byddwn hefyd yn ymgysylltu’n adeiladol ag asiantaethau allweddol yn genedlaethol ac yn lleol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Awdurdodau Lleol, i hwyluso deialog a gwella eu dealltwriaeth ac ymateb i anghenion ein cleientiaid.

Beth yw amserlen yr ymgyrch?

Bydd Time to Take Control yn mynd yn gyhoeddus yn ein lansiad ar 9 Mai 2023 ym Mro Morgannwg, a byddwn yn cynnal cyhoeddusrwydd cenedlaethol ac yn ymgysylltu’n weithredol ar-lein drwy gydol yr ymgyrch.

Ochr yn ochr â’r gweithgareddau cenedlaethol bydd 23 digwyddiad sirol (pob sir yng Nghymru a Swydd Gaerhirfryn) drwy gydol yr haf. Y dyddiadau a gadarnhawyd hyd yn hyn yw:

Mai 2023

9 Mai – Bro Morgannwg – Digwyddiad lansio
11 Mai – Ynys Môn
16 Mai – Sir y Fflint
18 Mai – Ceredigion

Mehefin 2023

2 Mehefin – Pen-y-Bont
7 Mehefin – Sir Ddinbych
14 Mehefin – Castell-nedd Port Talbot
21 Mehefin – Sir Benfro

Gorffennaf 2023

4 Gorffennaf – Rhondda Cynon Taf
10 Gorffennaf – Casnewydd
11 Gorffennaf – Sir Fynwy
12 Gorffennaf – Torfaen
13 Gorffennaf – Blaenau Gwent
14 Gorffennaf – Caerffili
18 Gorffennaf – Wrecsam
20 Gorffennaf – Sir Gaerfyrddin
25 Gorffennaf – Powys – Sioe Frenhinol Cymru

Awst 2023

8 Awst – Gwynedd – Eisteddfod Genedlaethol Cymru
17 Awst – Chorley, Swydd Gaerhirfryn
23 Awst – Caerdydd

Medi 2023

6 Medi – Merthyr
7 Medi – Conwy
14 Medi – Abertawe

Hydref 2023

10 Hydref – Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd – Digwyddiad diwedd yr ymgyrch

 

Beth ydyn ni’n gofyn i’r llywodreath ac eraill i’w wneud?

Byddwn yn pwyso am weithredu ar y Cynllun Deg Pwynt fel a ganlyn:

Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig:

  1. Sicrhau bod budd-daliadau i bobl ag anabledd neu salwch hirdymor yn codi gyda chwyddiant (mae chwyddiant i bobl sy’n byw mewn tlodi yn llawer uwch oherwydd bod costau tanwydd yn cynrychioli cyfran uwch na’r cyfartaledd o’u gwariant – felly mae angen ystyried hyn); hefyd, gweithredu proses asesu Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) decach a haws cael mynediad iddi sy’n rhoi cymorth cyflym i bobl
  2. Adfer y cynnydd wythnosol o £20 ar y Credyd Cynhwysol a oedd mor ddefnyddiol yn ystod y pandemig Covid
  3. Gwella cefnogaeth ariannol ar gyfer gofalwyr, gan gydnabod manteision cost gofalwyr yn gallu chwarae eu rhan tra’n darparu cefnogaeth
  4. Hirdymor: dechrau sgwrs genedlaethol am ddyfodol budd-daliadau, gyda’r nod o wella bywydau pobl sydd mewn perygl ac yn dibynnu ar fudd-daliadau
  5. Cynyddu’r cymorth i’r rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed sydd yn barod i ddod yn economaidd weithgar – gwella cefnogaeth, hyfforddiant a chymhellion heb roi pwysau ar y rhai hynny na allant weithio.

Mae angen i Lywodraeth Cymru:

  1. Hyrwyddo ymhellach yr angen i sicrhau fod gan bawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilradd Gynllun Gofal a Thriniaeth effeithiol yn ei le a bod rhain yn cynnwys y deilliannau i’w cyflawni a pha wasanaethau sydd i gael eu darparu, neu gamau i’w cymryd, o dan yr adran ‘Cyllid ac Arian’.
  2. Sicrhau fod pob oedolyn sydd mewn perygl, a’u gofalwyr, – a theuluoedd plant mewn perygl – yn cael mynediad hawdd ac amserol at gyngor ac eiriolaeth yn ymwneud â rheoli arian a dyle

Mae angen i’r sector wirfoddol yng Nghymru:

  1. Flaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer pobl sydd mewn perygl a effeithir fwyaf gan dlodi, yn cynnwys darparu cyngor a chefnogaeth neu hwyluso mynediad i gefnogaeth gan arbenigwyr
  2. Roi llais i bobl sydd mewn perygl er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru

A gall pob un ohonom:

  1. Fod yn gymdogion da. Gall helpu’r rhai o’n cwmpas ni wneud gwahaniaeth mawr, boed hynny’n golygu cyfrannu i fanc bwyd neu drwy helpu unigolyn neu deulu rydych chi’n eu hadnabod.

 

Beth fyddwn ni’n ei wneud i helpu ein buddiolwyr yn uniongyrchol?

Byddwn yn ymgysylltu gyda’n holl fuddiolwyr yn ein hymgyrch ehangach sydd wedi’i hanelu at y llywodraeth ac eraill drwy roi llais a chyfleoedd i bobl i egluro eu problemau a’r cymorth maent ei angen. Ond byddwn hefyd yn annog pobl i weithredu drostynt eu hunain.

Bydd ein Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Ariannol yr ydym yn ei redeg mewn partneriaeth gydag elusennau eraill yn y Deyrnas Unedig yn helpu pobl i gael y budd-daliadau sydd eu hangen arnynt a mynd i’r afael â phroblemau dyled a phroblemau ariannol eraill.

Yn benodol, byddwn yn sicrhau:

  • Bod ein gwasanaeth Pwynt Cyngor Ariannol yn cael ei amlygu yn y 23 digwyddiad lleol ac mewn digwyddiadau ymgyrchoedd cenedlaethol a bod gwybodaeth a chyngor ar gael
  • Bod cyfres o ganllawiau Cyngor Ariannol ar gael ar gyfer eu dosbarthu yn ystod yr ymgyrch a thrafodaeth mewn grwpiau lleol

Bydd ein gwasanaeth Cyfle Cymru yn helpu’n cleientiaid sydd yn barod i ddod yn economaidd weithgar i gamu ar yr ystol hyfforddiant a chyflogaeth er mwyn eu galluogi i wneud eu ffordd eu hunain tuag at ffyniant pellach. Yn benodol, bydd yn:

  • Darparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth heb unrhyw rwymedigaeth ar gyfer cleientiaid, eu teuluoedd, staff a gwirfoddolwyr sy’n gofyn amdano yn eu meysydd gweithredu; mewn ardaloedd eraill byddant yn cyfeirio at eu hasiantaethau priodol.
  • Darparu Pwynt Cyngor Hyfforddiant a Chyflogaeth mewn digwyddiadau ymgyrchu lleol a chenedlaethol.
  • Cyhoeddi canllaw hyfforddiant a chyflogaeth i’w ddosbarthu a’i drafod mewn grwpiau lleol.

Bydd ein grwpiau lleol yn darparu cefnogaeth i’n holl gleientiaid a rhanddeiliaid eraill ynghylch budd-daliadau, rheoli arian, hyfforddiant, cyflogaeth, a materion eraill cysylltiedig. Yn benodol, byddant yn:

  • Trefnu cyfres o sesiynau lleol mewn cyfarfodydd prosiect, grwpiau gofalwyr, ac mewn cyfleoedd eraill ble gall cleientiaid a rhanddeiliaid eraill drafod, rhannu syniadau a gweithredu ar yr argyfwng costau byw
  • Trefnu ymweliadau i / gan asiantaethau lleol allweddol ble gall rhandeiliaid gyfarfod a thrafod budd-daliadau, cyflogaeth, a materion cysylltiedig eraill gyda’r asiantaethau sy’n gyfrifol
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i drefnu gweithgareddau eraill o’u dewis i ddarparu ffyrdd addysgiadol ac ymgysylltiol i helpu pobl trwy’r argyfwng costau byw

 

Ar ddiwedd yr ymgyrch, byddwn yn rhannu’n canfyddiadau’n eang ac yn gadael etifeddiaeth o gyngor ac arfer dda. Yn benodol, byddwn yn:

  • Cyhoeddi Canllaw Goroesi’r Argyfwng Costau Byw, wedi’i anelu at bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chaethiwed, sydd wedi’i sylfaenu ar adborth o’r ymgyrch gan ei ddosbarthu’n eang
  • Cyhoeddi a dosbarthu adroddiad ar yr ymgyrch

Cyswllt a gwybodaeth bellach o’r Brif Swyddfa: Tŷ Dafydd Alun 36 Princes Drive, Colwyn Bay Conwy LL29 8LA Wê: www.adferiad.org.uk E-bost: peter.martin@adferiad.org