News     19/11/2021

Adferiad Recovery yn amlygu’r sgandal cyfiawnder troseddol

Dywed Prif Weithredwr Adferiad Recovery Alun Thomas fod ‘yna angen brys i achub pobl sydd ag afiechyd meddwl o’r system cyfiawnder troseddol’

Mar arolwg mawr wedi canfod fod y system cyfiawnder troseddol yn parhau i fethu pobl yn Lloegr a Chymru sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Roedd arolygwyr wedi disgrifio’r canfyddiadau fel rhai “siomedig” gan ddweud fod diffyg cynnydd wedi ei wneud ers yr adolygiad diwethaf yn 2009.

Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd Prif Weithredwr Adferiad Recovery Alun Thomas:

“Mae’r adroddiad hwn wedi atgyfnerthu’r hyn y mae ein cleientiaid  wedi dweud wrthym ers blynyddoedd: y system cyfiawnder troseddol yw’r lle gwaethaf posib ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl, ac eto, mae’n hen arfer ein bod ni yma yn y DU yn gorfodi rhai o’n bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau i fynd drwy’r profiad erchyll hwn.

“Mae’r adroddiad yn amlygu methiant asiantaethau gwahanol i gytuno ar ddulliau unedig o weithio gyda dealltwriaeth a systemau a rennir. Mae angen mynd i’r afael gyda hyn gan y byddai’n medru arwain at lawer o ddaioni.

“Ond mae yna her fwy sylfaenol. Fel cymdeithas, rydym ni – ac yn enwedig ein gwleidyddion – angen ystyried ein cydwybod a gofyn sut yn y byd ydym yn medru derbyn y fath sefyllfa. Mae angen brys i achub pobl sydd ag afiechyd meddwl o’r system cyfiawnder troseddol a rhoi’r gofal iddynt y maent ei angen yn yr ysbyty neu yn y gymuned. Nid oes angen cyfaddawdu diogelwch cyhoeddus gan fod modd cynnig mesurau diogelwch ar gyfer y llond llaw o gleifion sydd angen hyn. Ond mae diffyg ewyllys i fynd i’r afael â’r anghyfiawnder hwn. Ond mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi dangos eu bod yn fodlon buddsoddi lefelau digynsail er mwyn amddiffyn iechyd cyhoedd –  a dylai’r dioddefwyr yma o ran methiant y wladwriaeth fod ar frig y rhestr ar gyfer derbyn cymorth, ac nid yn rhyw fath o  ôl-ystyriaeth.”

Mae Adferiad Recovery yn falch o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder troseddol amrywiol ar draws Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gogledd Cymru

  • Tŷ’n Rodyn – Llety â chymorth ar gyfer dynion sy’n gadael y carchar ac yn meddu ar anghenion cymhleth.
  • Tŷ Adferiad – Llety â chymorth ar gyfer menywod sy’n gadael y carchar ac yn meddu ar anghenion cymhleth..
  • Jigsaw – Grŵp defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer unigolion sydd â hanes o droseddu.
  • Dechrau Newydd – Yn cael ei arwain gan Kaleidoscope ond mewn partneriaeth ag Adferiad Recovery (adnabuwyd cyn hyn fel y Prosiect Ymyrraeth Cyffuriau).
  • St Giles Trust – Yn cael ei arwain gan St Giles Trust ond mewn partneriaeth ag Adferiad Recovery, yn gweithio ag unigolion sydd wedi eu rhyddhau yn ddiweddar o’r carchar ac sydd ar drwydded.

Canolbarth, Gorllewin a De Cymru

  • Gwasanaethau Oedolyn Priodol – Adferiad Recovery yw’r darparwr o dan gontract ar gyfer Oedolion Priodol i Heddlu De Cymru, Dyfed Powys a Gwent, gan gynnig cymorth i oedolion bregus sydd yn y ddalfa. Mae hyn hefyd ar gael i oedolion bregus sydd wedi derbyn cais i fynd am gyfweliad gwirfoddol neu am wneud datganiad fel dioddefwr/tyst.
  • Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Carchar Dyfodol – mae Adferiad Recovery yn darparu cymorth camddefnyddio sylweddau i garcharorion yng Ngharchardai Ei Mawrhydi Caerdydd, Prescoed, Abertawe a Brynbuga fel gwasanaeth Dyfodol (mewn partneriaeth gyda G4S a Kaleidoscope). Mae hyn hefyd yn cynnwys cynnig cymorth yn y gymuned pan fydd unigolion yn cael eu rhyddhau er mwyn lleihau’r peryg o ail bwl o salwch ac ail-droseddu.
  • Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Troseddu Ieuenctid – mae Adferiad Recovery hefyd yn gosod gweithwyr camddefnyddio sylweddau yn rhan o’r Timau Troseddu Ieuenctid yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg er mwyn cefnogi troseddwyr yn y gymuned sydd yn meddu ar broblemau camddefnyddio sylweddau.