Bydd Adferiad Recovery yn cefnogi Wythnos Diogelu Oedolion 2021 yr wythnos hon, gan godi ymwybyddiaeth o’r materion diogelu pwysig sydd yn wynebu oedolion heddiw.
Nod Wythnos Diogelu Oedolion yw amlygu’r materion diogelu allweddol, hwyluso sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth o arferion gorau o ran diogelu – fel bod pawb yn medru bod yn well gyda’i gilydd. Bydd yr Wythnos yn caniatáu i fwy o fudiadau ac unigolion i deimlo’n hyderus wrth adnabod arwyddion o gam-drin a negodi ac yn cofnodi ac yn rhoi gwybod am bryderon diogelu.
Er mwyn dathlu’r Wythnos Diogelu Cenedlaethol, bydd Adferiad Recovery yn cynnal sawl sesiwn wybodaeth fel bod ein holl staff yn medru mynychu.
At hyn, bydd staff yn cael cyfle i dreulio amser gyda’r arweinwyr diogelu penodol yn y mudiad i gael sgyrsiau agored, gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am faterion diogelu a thrafod unrhyw achosion mewn amgylchedd diogel.
Cofiwch fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb – felly, gadewch i ni siarad am hyn. Am fwy o wybodaeth am yr Wythnos Diogelu Cenedlaethol, cliciwch yma.