Croeso i rifyn mis yma o Gylchlythyr Adferiad Recovery!
Trwy gydol mis Medi a Hydref wnaeth Adferiad Recovery cynnal 23 digwyddiad ar draws Cymru a Sir Gaerhirfryn (darllenwch mwy isod!) ac ymgynghoriad ar-lein yn gofyn i’n hapddalwyr pa fath o elusen dylai ni fod, pa nodau dylai ni gael, a beth y dylem fod yn ymgyrchu drosto. Hoffwn i ddweud diolch enfawr i bawb oedd wedi cefnogi’r ymgyrch, pe bai hynny trwy fynychu un o’n digwyddiadau neu trwy gwblhau’r holiadur ar-lein. Dwi wrth fy modd i allu rhannu rhai o’r canfyddiadau allweddol o’r ymgynghoriad hefo chi.
Un o’r cwestiynau allweddol a ofynnwyd gennym oedd: be ddylai ein prif flaenoriaethau fod? Y brif flaenoriaeth a nodwyd gan ein hapddalwyr oedd datblygu gwasanaethau cydgysylltiedig ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, dibyniaeth neu sy’n cyd-ddigwydd; h.y, rydym angen trin y person yn ei gyfanrwydd a darparu dull integredig yn lle gosod pobl i mewn i wasanaethau sbesiffig. Roedd blaenoriaethau allweddol eraill yn cynnwys mynd i’r afael â’r stigma o amgylch dibyniaeth, iechyd meddwl a diagnosisau sy’n cyd-ddigwydd, a sicrhau bod Adferiad Recovery yn lle gwych i weithio!
Un pryder mawr a chafodd ei nodi yn yr holiadur oedd yr angen am well hawliau i wasanaethau amserol, sydd ag adnoddau da ac sy’n canolbwyntio ar y claf i’n grŵp cleientiaid. Yn benodol, pan ofynnir pa wasanaethau newydd roeddynt eisiau Adferiad Recovery datblygu yn y blynyddoedd i ddod, wnaeth cyfranogwyr nodi blaenoriaeth ar gyfer y rhai sy’n canolbwyntio ar gyfeillio a gweithgareddau cymdeithasol: arwydd clir o’r pwysigrwydd o ddod â phobl at ei gilydd yng Nghymru ar ôl COVID.
Mae Adferiad Recovery yn perthyn i’w hapddalwyr: aelodau, cleientiaid a’u teuluoedd, gwirfoddolwyr, staff, partneriaid, cyllidwyr a chefnogwyr. Mae ymddiriedolwyr a rheolwyr Adferiad Recovery wrth eich gwasanaeth ac yn barod i weithredu ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym.
Mae ymgyrch “Siarad ag Adferiad” wedi darparu cyfle i’n hapddalwyr i ddweud eu dweud, ac rydych wedi neud hi’n hollol glir pa fath o elusen rydych yn feddwl dylai Adferiad Recovery anelu at fod, pa gryfderau dylai hi adeiladu ar, pa wendidau y dylai fynd i’r afael â nhw, pa wasanaethau y dylai geisio eu datblygu, a pha faterion y dylai ymgyrchu yn eu cylch.
Yn y blynyddoedd i ddod rydym am siapio ein helusen newydd mewn ymateb i’r blaenoriaethau sydd wedi’i nodi yn yr ymgynghoriad: bydd hwn yn cynnwys y datblygiad o wasanaethau uchelgeisiol newydd ar gyfer pobl sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd, ymgyrchu diflino i leihau stigma, a lobïo actif i wella hawliau ein grŵp cleientiaid.
Rydym yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi – ein rhanddeiliaid – am ddyfodol eich elusen!
Alun Thomas
Prif Weithredwr, Adferiad Recovery
Lawrlwythwch y cylchlythyr yma.