News     15/10/2021

Cystadleuaeth: Dyluniwch gerdyn ‘Diolch/Thank You’ ar gyfer codwyr arian Adferiad Recovery!

Mae Adferiad Recovery yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer cleientiaid, gofalwyr, aelodau a chefnogwyr i ddylunio cerdyn ‘diolch/thank you’ i’w danfon at bawb sydd yn casglu arian ar ein rhan.

Yn ogystal â gwobr o £50, bydd y gystadleuaeth yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich sgiliau artistig! Bydd eich cerdyn yn cael ei argraffu’n broffesiynol a’i ddanfon at bawb sydd yn codi arian ar ein rhan.
Mae rhyddid llwyr gennych o ran dylunio cerdyn – ac rydym yn croesawu pob dim, a hynny o aderyn Adferiad Recovery i flodau hyfryd!

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 19eg Tachwedd. Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hadolygu gan banel arbenigol o feirniaid o Adferiad Recovery a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 26ain Tachwedd – byddwch wedyn yn derbyn £50 fel gwobr yn barod i’w wario yn ystod y Nadolig!

Dylech ddanfon eich dyluniadau i samanthadrohan@wcada.org neu yn y post i Samantha Drohan, Adferiad Recovery, Uned B3, Parc Technoleg Lakeside, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FE (cofiwch gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt).

Rydym yn disgwyl ymlaen at weld eich dyluniadau!