News     04/10/2021

RYDYM AM WELD NEWID

RYDYM AM WELD NEWID

Ymgynghoriad sylweddol yn  darganfod fod budd-ddeiliaid Adferiad Recovery am weld gwasanaethau sydd wedi cysylltu â’i gilydd, gweithredu ar y stigma a’r hawl i dderbyn gofal a thriniaeth gwell 

Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad Siarad ag Adferiad, a oedd yn cynnwys 23 o ddigwyddiadau ar draws Cymru a Swydd Gaerhirfryn ac arolwg cenedlaethol, yn cael eu cyflwyno mewn digwyddiad ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd  ym Mae Caerdydd ar 7fed Hydref

Mae’r canlyniadau cyntaf wedi dod i law! Mae mwy na 1000 o fudd-ddeiliaid Adferiad Recovery ar draws Cymry Wales – aelodau, cleientiaid, gofalwyr, gwirfoddolwyr, staff, cyllidwyr a chefnogwyr – eisoes wedi cael dweud eu dweud ar yr hyn ddylai fod yn amcanion newydd yr elusen, yr hyn y dylid ymgyrchu o’i blaid a’r hyn y maent yn dymuno o’r gwasanaethau ehangach yng Nghymru. Dyma’r hyn y maent wedi dweud:

  • Dylai’r holl wasanaethau ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, caethiwed neu sy’n cyd-ddigwydd, fod wedi eu cysylltu gyda’i gilydd: h.y. mae angen iddynt drin y person yn ei gyfanrwydd a chynnig dulliau mwy integredig yn hytrach na cheisio gwthio pobl i dderbyn gwasanaethau penodol
  • Mae angen mynd i’r afael ar frys gyda’r stigma o ran diagnosis sydd yn ymwneud gyda phroblemau iechyd meddwl, caethiwed neu gyflyrau sy’n cyd-ddigwydd
  • Rydym angen hawliau gwell i dderbyn gwasanaethau amserol, sydd yn cael eu cefnogi gan adnoddau ac sydd yn canoli ar y cleifion.

Yn benodol, pan ofynnwyd pa wasanaethau newydd yr oeddynt am weld Adferiad Recovery yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, roeddynt wedi blaenoriaethu rhai sydd yn ffocysu ar weithgareddau cyfeillio a chymdeithasol: arwydd clir o bwysigrwydd dwyn pobl ynghyd mewn cyfnod ôl-COVID yng Nghymru.

Mae Michael Sheen yn dweud diolch!

Roedd yr ymgynghoriad wedi arwain at gannoedd o bobl yn mynychu’r 23 digwyddiad ar draws Cymru a thu hwnt, a channoedd mwy yn cymryd rhan ar-lein, a fe’i lansiwyd gan Lysgennad yr Elusen,  Michael Sheen, yn gynnar ym mis Medi.

Dywedodd Michael: “Rydym yn elusen newydd ac uchelgeisiol ac rydym am i’n budd-ddeiliad i drafod y math o elusen y dylem fod, ein hamcanion a’r hyn y dylem fod yn ymgyrchu o’i blaid. Diolch i chi am eich cefnogaeth!”

Neges gan Lywodraeth Cymru

Roedd yr ymgynghoriad hefyd wedi gofyn i fudd-ddeiliaid am yr hyn y dylai Adferiad Recovery fod yn ymgyrchu o’i blaid, a sut y dylai ddal Llywodraeth Cymru fod yn atebol. Roedd y blaenoriaethau a nodwyd fel a ganlyn:

  • Sicrhau mwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethau
  • Gwella amseroedd aros
  • Sicrhau Deddf Iechyd Meddwl newydd yng Nghymru sydd yn cael ei gweithredu mewn modd sydd mor flaengar ag syd yn bosib

Roedd unigolion a fu’n cymryd rhan hefyd wedi nodi blaenoriaeth eglur ar gyfer lleihau’r stigma sydd yn nodweddu  materion iechyd meddwl, caethiwed neu gyflyrau sy’n cyd-ddigwydd a dylai’r elusen ymladd ar gyfer mabwysiadu dull ymyrraeth gynnar ar gyfer yr holl wasanaethau yng Nghymru.

Camau nesaf

Dywedodd Prif Weithredwr Adferiad Recovery, Alun Thomas: “Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae   Adferiad Recovery yn eiddo i’r aelodau a’r budd-ddeiliaid allweddol  eraill a bydd ymddiriedolwyr a rheolwyr yn gweithredu ar yr hyn y maent wedi dweud wrthym.

“Yn y blynyddoedd sydd i ddod, rydym yn mynd i lywio ein helusen newydd yn sgil y blaenoriaethau sydd  wedi eu nodi gan yr ymgynghoriad: bydd hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau uchelgeisiol newydd ar gyfer pobl ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd, ymgyrchu diflino er mwyn lleihau stigma a lobïo er mwyn gwella hawliau ein grŵp cleient.

“Mae amser cyffrous o’n blaenau. Gwyliwch y gofod hwn!”