Hoffem ni llongyfarch Ymddiriedolwr Adferiad Recovery, Suzanne Duval BEM, am ennill Gwobr Cyflawniad Oes yn wobrau Cymdeithas Cyflawniad Merched Cymru Lleiafrifoedd Ethnig eleni.
Nod gwobrau’r CCMCLlE yw cydnabod a dathlu cyflawniadau menywod BAME o amrywiaeth o gefndiroedd yng Nghymru. Blwyddyn yma oedd chweched seremoni wobrwyo’r Gymdeithas a chafodd ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Gwener 17eg o Fedi. Mynychodd nifer o gynrychiolwyr y Senedd y digwyddiad, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford; Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Gwobrau yn cynnwys categorïau sy’n cydnabod cyfraniadau menywod BAME i adrannau fel Gwyddoniaeth, Technoleg a Gofal Iechyd, Rheolaeth ac Arweiniad, a’r Agenda Thrais yn erbyn Menywod, gyda’r digwyddiad eleni hefyd yn cyflwyno Gwobr Cyfraniad Eithriadol at yr Ymateb COVID-19 oherwydd y pandemig coronafirws.
Derbyniodd Suzanne y Wobr Cyflawniad Oes yn y digwyddiad eleni ar gyfer ei waith ym maes iechyd meddwl ac yn ddiweddarach dementia ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yng Nghymru. Cafodd y wobr ei gyflwyno i Suzanne gan Jane Hutt a Julie Morgan. Hon yw’r ail dro iddi gael ei chydnabod am ei waith anhygoel ar ôl derbyn Medal Ymerodraeth Prydain o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2019 hefyd.
Mewn ymateb i dderbyn y wobr yma, dywedodd: “Rwyf wrth fy modd hefo fy ffawd dda ac yn teimlo’n freintiedig, anrhydeddus ac yn wylaidd i gyd ar yr un pryd fy mod i wedi cael fy enwebu ac wedi cael fy meirniadu gan fy nghyfoedion i fod yn deilwng am wobr urddasol; pobl yr wyf wedi edrych i fyny atynt ers blynyddoedd. Mae bod yn rhan o’r grŵp hwnnw a chael fy nerbyn yn teimlo allan o’r byd hwn i mi.
“Hoffwn i ddweud diolch eto i bawb oedd wedi enwebu a phleidleisio ar fy nghyfer. Hoffwn i hefyd diolch i fy mhlant bendigedig, Natasha a James, sydd erioed wedi cefnogi ac annog fi, a hefyd i fy ffrindiau a chyd-weithwyr ffantastig sydd erioed wedi annog fi i wneud mwy nag oeddwn i’n credu bod fi’n gallu gwneud.”
Da iawn Suzanne, rydych yn ysbrydoliaeth i ni gyd!