Gwasanaeth Gofal yn y Cartref Powys

Sir:

Powys

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r gwasanaeth ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Ffôn:

01874 610346

Email:

info@adferiad.org

Am y prosiect

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu mewn dwy ran:

1.Gofal yn y Cartref:
Mae’r gwasanaeth yn darparu pecynnau teilwredig o ofal yng nghartrefi yr unigolion er mwyn cefnogi eu lles a’u hannibyniaeth fel eu bod yn medru parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac yn eu cymunedau lleol. Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu yn rheolaidd e.e. dwywaith yr wythnos neu’n fwy aml os oes angen ac yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn sydd wedi eu hasesu- fel arfer drwy gomisiynydd allanol fel Gwasanaethau Cymdeithasol. Rhaid i bob galwad fod yn 30 munud o leiaf er mwyn sicrhau cyswllt pwrpasol.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned leol er mwyn darparu gofal yn y cartref diwedd oes er mwyn caniatáu unigolion u fyw yn eu cartrefi yn unol gyda;u dymuniadau.

Mae cymorth yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar anghenion, dymuniadau a f’arfaethau personol er mwyn hyrwyddo lles ac annibyniaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymorth gyda Gofal Personol.
  • Cymorth gyda Maetheg a Hydradu.
  • Cymorth gyda Meddyginiaeth Presgripsiwn.
  • Cymorth gyda Symudedd.
  • Cymorth gyda mynediad i’r gymuned leol a’n mynychu digwyddiadau cymdeithasol

2. Gwasanaeth Seibiant (HBR / Gwasanaeth Eistedd):​
Darparu cymorth ymarferol (seibiant) i Ofalwyr di-dâl o bob oedran, yn eu caniatáu i gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu ac yn gwella lles yr unigolyn sy’n derbyn y gofal, drwy gefnogi/creu cyfleoedd cymdeithasol a hamddenol.

Mae gwasanaethau seibiant yn cael eu darparu’n gyson e.e. yn wythnosol neu’n fisol neu’n llai aml am gyfnodau hirach os oes angen ac maent yn hyblyg i hyrwyddo anghenion a lles y gofalwr a’r unigolyn sydd yn derbyn y gofal.
Mae’r gwasanaeth yn derbyn unigolion sydd yn talu’n breifat ac yn rhannu staffio gyda Gwasanaeth Seibiant i Ofalwyr BIDP.

Mae’r gwasanaeth wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Nid oes angen cymhwystra arall ac eithrio meddu ar angen cymorth a’n byw o fewn Cyngor Sir Powys.

Mae’r gwasanaeth yn medru derbyn atgyfeiriadau gan ffrindiau ac aelodau teulu.

  • Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Awdurdod Lleol (drwy froceriaeth)
  • Gwasanaethau Gwybodaeth / mudiadau eraill e.e. Cysylltwyr Cymunedol, gweithwyr allgymorth ayyb
  • Hunan-atgyfeiriadau/ffrindiau a theulu – ar gyfer trefniadau preifat.

Mae modd gwneud atgyfeiriadau yn uniongyrchol drwy gysylltu gyda swyddfa Powys ar 01874 610346 neu info@adferiad.org

Adnoddau