News     31/08/2021

Michael Sheen yn cyhoeddi’r ymgyrch genedlaethol “Siarad ag Adferiad” sydd yn gofyn i chi i lywio dyfodol yr elusen newydd

Michael Sheen yn cyhoeddi’r ymgyrch genedlaethol “Siarad ag Adferiad” sydd yn gofyn i chi i lywio dyfodol yr elusen newydd

Bydd 23 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal fel rhan o’r ymgyrch ar draws Cymru a  Swydd Gaerhirfryn ac yna dathliad yn yr hydref   

Mae Michael Sheen, Llysgennad Adferiad Recovery, wedi cyhoeddi ymgyrch newydd 2021 a fydd yn arwain at filoedd o bobl ar draws Cymru a thu hwnt yn cymryd rhan yn llywio dyfodol yr elusen newydd.   

Lansiwyd yr elusen yn gynharach eleni pan oedd Adferiad Recovery, CAIS, Hafal a’r WCADA wedi uno â’i gilydd.

Mae ymddiriedolwyr ac uwch-reolwyr Adferiad Recovery nawr yn gwahodd holl fudd-ddeiliaid yr elusen – cleientiaid, staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a chyllidwyr – i rannu eu dyheadau a diffinio’r mudiad newydd o’r cychwyn cyntaf.

Wrth gyhoeddi’r ymgyrch, dywedodd Michael: “Bydd Siarad ag Adferiad yn ein harwain i gynnal sgwrs fawr a fydd yn cynnwys ein holl fudd-ddeiliaid ar draws Cymru a thu hwnt.

“Rydym yn elusen newydd ac uchelgeisiol ac rydym am drafod gyda chi’r fath o elusen yr ydym am fod, ein hamcanion a beth ddylem fod yn ymgyrchu o’i blaid. Mae’r hyn y byddwch yn dweud wrthym yn mynd i ddylanwadu ar yr hyn yr ydym yn gwneud am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad Recovery: “Y peth pwysig yw cofio mai’r aelodau sydd yn berchen ar Adferiad Recovery – sef cleientiaid yn bennaf a’u teuluoedd – ond hefyd y budd-ddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys gwirfoddolwyr, staff, partneriaid, cyllidwyr a chefnogwyr.

“Mae’r ymddiriedolwyr a rheolwyr yn  Adferiad Recovery yn barod i’w gwasanaethu a gweithredu ar yr hyn y maent yn dweud wrthym. Pwrpas yr ymgyrch hon yw rhoi’r cyfle i ni gynnal sgwrs bellgyrhaeddol ac amrywiol am yr hyn y dylent fod yn ceisio ei gyflawni fel elusen.”

Bydd 23 digwyddiad ymgyrch lleol yn cael eu cynnal, un ym  mhob un o’r 22 sir yng Nghymru a Swydd Gaerhifryn, a bydd y digwyddiadau yma yn rhoi cyfle i fudd-ddeiliaid allweddol i ymuno gyda’r sgwrs; bydd arolwg ar-lein ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cynnig cyfleoedd i fudd-ddeiliaid i ymgysylltu’n rhithwir.

Bydd adroddiad ar “Siarad ag Adferiad” yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn yr hydref a noddir gan y Dirprwy Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle AS: bydd hyn yn amlinellu’r camau y bydd Adferiad Recovery yn cymryd er mwyn gweithredu barn y budd-ddeiliaid.

Dysgwch mwy am yr ymgyrch Siarad ag Adferiad yma: https://www.adferiad.org.uk/cy/siarad-ag-adferiad/