News     23/08/2021

Arwerthiant Michael Sheen ar-lein yn codi dros £19,000 ar gyfer Adferiad Recovery!

Arwerthiant Michael Sheen ar-lein yn codi dros £19,000 ar gyfer Adferiad Recovery!

 

Hoffem ni dweud diolch ENFAWR i The White Curl a noddwr Adferiad Recovery Michael Sheen am godi swm anhygoel o ddros £19,000 ar ein cyfer trwy gynnal ymgyrch polaroid ar-lein.

Mae’r White Curl yn sefydliad dielw sy’n ymroddedig at godi arian ar gyfer elusennau ac achosion Cymraeg sy’n cael eu cefnogi gan actor Hollywood Michael Sheen. Ar gyfer yr ymgyrch yma wnaethant nhw dynnu cyfres o luniau polaroid unigryw o Michael yn Llundain yn ystod rhediad drama yr oedd yn serennu ynddi, yn dal cipolwg o’r foment hon yn ei fywyd. Wnaeth y lluniau polaroid yna cael eu harwyddo gan Michael cyn cael eu harwerthu ar-lein rhwng y 7fed a’r 14eg o Awst, gyda 100% o’r elw yn mynd i Adferiad Recovery.

Cafodd yr arwerthiant ei gynnal trwy gyfrif Twitter y White Curl, a gwnaed y rhoddion yn uniongyrchol i Adferiad Recovery trwy JustGiving. Trwy gydol yr wythnos wnaeth y White Curl postio nifer o lotiau i brynwyr posib gwneud cynnig amdanynt, gyda’r lot oedd wedi ennill y swm uchaf yn cael ei werthu am swm rhyfeddol o £3,085! Wnaeth pob lot cynnwys y llun polaroid gwreiddiol yn ogystal ag amrywiaeth o bethau ychwanegol fel rhaglenni wedi’u llofnodi, copïau digidol o’r lluniau polaroid neu fideos o Michael Sheen yn llofnodi’r lluniau.

Er bod y lluniau polaroid gwreiddiol i gyd wedi cael ei werthu erbyn rŵan, mae’r White Curl yn cynnig rhediad cyfyngedig ar hyn o bryd o nwyddau sy’n cynnwys copïau o rhai o’r lluniau polaroid yn gyfnewid am roddion i Adferiad Recovery. Roedd y sefydliad eisiau sicrhau bod yr ymgyrch yn hygyrch i bawb ac felly gellir prynu eitemau o nwyddau Michael Sheen o’u siop ar-lein am gyn lleied â £5.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu unrhyw un o’r nwyddau Michael Sheen sy’n cael ei gynnig, gallwch wneud hynny yma am gyfnod cyfyngedig.