Mae ffigyrau sydd wedi’i gyhoeddi gan y BBC heddiw yn dangos bod dros gyfnod o flwyddyn wnaeth i fyny at 4,5000 o bobl mewn argyfwng iechyd meddwl yn Lloegr a Chymru cael eu dal yn anghyfreithlon yn nalfa’r heddlu.
Mewn datganiad, sywedodd Adferiad Recovery:
Mae defnydd celloedd yr heddlu ar gyfer cadw pobl sydd heb wedi cyflawni trosedd ond yn profi argyfwng iechyd meddwl neu emosiynol yn farbaraidd – ond ni ddylem roi’r bai ar yr heddlu am hyn. Mae methiant i fuddsoddi mewn cefnogaeth briodol wedi arwain at y sefyllfaoedd yma ac mae’r bobl sydd wedi angen help wedi dioddef o ganlyniad.
Mae aelodau Adferiad Recovery yn cynnwys y rhai sy’n byw gydag afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd a gofalwyr: maen nhw yn dweud wrthym fod yr heddlu yn aml yn darparu’r unig ymateb gwarantedig mewn argyfwng – ond pam rydym ni’n dibynnu ar yr heddlu i ddarparu’r help yma?
Meddai Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Adferiad Recovery, a cyn-Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Clive Wolfendale , “Yn ystod fy ngyrfa o 34 mlynedd mewn plismona gwnes i ddod ar draws cannoedd o unigolion mewn perygl y bysa cell ddalfa ar ei chyfer y datrysiad cwbl anghywir; ond doedd yna ddim dewis arall. Rŵan, mae Adferiad Recovery ac asiantaethau eraill yng Nghymru gyda chyfleusterau i sicrhau bod yr unigolion yma – a’r cyhoedd – wedi’i amddiffyn yn well. Dylem ni rŵan sicrhau bod y fath yma o ymateb cefnogol wedi’i gydlynu a’i gyllido’n iawn.”
Dywedodd Lianne Martynski, Pennaeth Gwasnaethau Argyfwng Adferiad:
“Nodwn fod y ffigurau hyn bellach ychydig o flynyddoedd oed ac rydym yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y ddarpariaeth o wasanaethau argyfwng amgen. Rydym yn rhan o ddarpariaeth noddfeydd argyfwng yn Abertawe a Llanelli, yn cynnig man diogel i bobl nad oes angen iddynt fod mewn cysylltiad â’r heddlu neu’r gwasanaethau iechyd meddwl ond sy’n profi argyfwng yn eu bywydau. Mae’r gwasanaethau yma yn gweithio’n agos gyda thimau argyfwng iechyd meddwl statudol sydd yna yn gallu canolbwyntio ar y rhai sydd angen ymyrraeth iechyd meddwl arbenigol.
Mae’r noddfeydd yma yn gallu lleihau’r angen ar gyfer cyfranogiad yr heddlu, timau iechyd meddwl neu Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Yn sicr mae hwn yn ffordd fwy priodol i helpu pobl mewn argyfwng.”