Gwirfoddoli

Gwirfoddolwch gyda ni!

Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol yn narpariaeth a llwyddiant ein gwasanaethau! Mae bod yn wirfoddolwr yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a datblygu hyder trwy gefnogi gwirfoddolwyr eraill, staff cyflogedig a defnyddwyr gwasanaeth mewn amrywiaeth o rolau.

Gwirfoddoli

Buddion Gwirfoddoli

    • Datblygiad personol
    • Cael sgiliau a phrofiad newydd
    • Gwella rhagolygon cyflogaeth
    • Defnyddio sgiliau presennol
    • Cyfarfod â phobl newydd
    • Cynyddu hyder
    • Mynediad at hyfforddiant
    • Gwella lles emosiynol
Gwirfoddoli

Pam gwirfoddoli gydag Adferiad?

  • Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn derbyn llawer o bleser drwy ddefnyddio eu sgiliau a’u hamser i helpu eraill.
  • Gall gwirfoddoli gynnig patrwm a strwythur mewn amgylchedd cyfeillgar i’r rhai sy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl neu lenwi eu hamser yn gynhyrchiol.
  • Gall gwirfoddoli fod yn fuddiol iawn i CV. Gall wella eich proffil personol drwy ddangos ymrwymiad a dymuniad i weithio.
Gwirfoddoli

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth?

Am fanylion pellach, cysylltwch ag aelod o’n tîm lleoliad a fydd yn hapus i’ch helpu.

Cysylltwch â ni