Gall eich cyfraniad mynd yn bell.
Diolch am ystyried cyfrannu i Adferiad. Gall eich rhodd hael ein helpu ni i sicrhau ein bod ni yno i gefnogi pobl sydd â iechyd meddwl gwael, heriau defnyddio sylweddau, a’u teuluoedd, pan maent ein hangen ni a chyhyd ag y bydd ein hangen arnynt. O rodd misol neu rodd yn eich ewyllys i roi wrth siopa ar-lein, mae cymaint o wahanol ffyrdd yr ydych chi’n ein helpu ni i wneud gwahaniaeth!
Ystadegau Effaith
£2
Gallai £2 ddarparu pryd bwyd ar gyfer person digartref.
£10
Gallai £10 roi clust i wrando a sgwrs gyfeillgar ar gyfer rhywun yn eich cymuned sydd angen cymorth gyda’u hiechyd meddwl.
£25
Gallai £25 wneud tŷ yn gartref ar gyfer rhywun sy’n symud i mewn i’w tenantiaeth gyntaf.
£50
Gallai £50 brynu’r offer a’r deunyddiau rydyn ni eu hangen i sicrhau fod pawb sy’n ymweld â’n canolfannau adnoddau’n gallu gwneud gweithgaredd maent yn ei fwynhau.
Ffyrdd i gyfrannu
Am fwy o wybodaeth am wahanol ffyrdd i gyfrannu, cysylltwch ag fundraise@adferiad.org
Ar-lein
Gallwch gyfrannu drwy ein tudalen Just Giving. Mae’n ffordd hawdd i gyfrannu a derbynnir yr holl brif ddulliau talu. Cliciwch isod i gyfrannu heddiw.
Rhowch wrth fyw
Gallwch hefyd wneud rhodd i Adferiad heb unrhyw gost ychwanegol tra’n siopa ar-lein. Dim ond dewis Adferiad fel eich elusen ddewisol ar ‘Give as you Live’ ac fe dderbyniwn rodd! Cliciwch isod i ddechrau arni.
Trwy'r post
Tŷ Dafydd Alun 36 Princes Drive Colwyn Bay Conwy LL29 8LA
Gweld sut mae eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth
Clywed sut mae eich rhodd wedi effeithio pobl rydym yn cefnogi