Codi arian

Codi arian 

Diolch yn fawr am ystyried codi arian ar gyfer Adferiad! Byddwn wrth ein bodd clywed am eich cynlluniau! O ddringo Pen-Y-Fan i gynnal arwerthiant cacennau yn y swyddfa, beth bynnag wnewch chi benderfynu ei wneud i godi arian i ni, byddwn yno gyda chi bob cam o’r ffordd. Bydd pob punt rydych yn ei godi yn ein helpu i barhau i fod yno ar gyfer pobl ar draws Cymru sy’n cael problemau gyda’u hiechyd meddwl, defnydd sylweddau (neu gaethiwed arall) a’u teuluoedd hefyd. 

Ystadegau Effaith

Dyma rai ffyrdd profedig i godi arian, naill ai gyda ni neu gydag sefydliad o'ch dewis:

Syniadau Codi Arian

Codi arian

Byddwch yn Actif!

O redeg yn y parc a dringo mynyddoedd i gerdded fel tîm a diwrnodiau chwaraeon, gallwch godi arian ar gyfer Adferiad drwy gymryd rhan mewn pob math o ddigwyddiadau actif drwy gydol y flwyddyn. Rydym mor ddiolchgar i’r codwyr arian sydd wedi ein cefnogi drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau megis:

 

  • Heriau Beicio
  • Heriau Cerdded Cŵn
  • Teithiau Cerdded Grŵp wedi’u Trefnu (Unigol ac fel Tîm)
  • Gêm Griced Elusennol
Codi arian

Heriwch Eich Hun!

Mae gofyn am noddwyr ar gyfer her rydych am ei cheisio yn ffordd wych o godi arian! Gallai fod yn unrhyw beth o dyfu mwstas i gwblhau nenblymiad. Mae codi arian yn ffordd wych o brofi eich hun a chael hwyl yr un pryd. Gallai esiamplau o weithgareddau eraill gynnwys:

  • Marathonau Gemau neu Ffrydio
  • Heriau wedi’u hamseru neu ddygnwch e.e. dawnsio am 24 awr, neu wisgo gwisg ffansi am wythnos!
  • Ymatal o rhywbeth e.e. siocled neu fferins.
  • Ceisiadau i dorri record (Record y Byd, neu Record y Swyddfa! Heriwch eich hun i fod y gorau).

Nid cofrestru ar gyfer marathon neu brofi eich dyfalbarhad yw’r unig ffordd i godi arian i ni! Mae llawer o ffyrdd i godi arian. Beth bynnag yw eich diddordebau, mae ffyrdd i gymryd rhan a helpu i gefnogi rhai o’r cymunedau prin a glywir yng Nghymru.

Codi arian

Dathlwch!

Mae gofyn am roddion yn hytrach nag anrhegion yn eich priodas, ar ein penblwydd, neu ddathliad arbennig arall yn ffordd syml ond effeithiol iawn o gefnogi elusen. Mae dulliau i’n cefnogi’n cynnwys:

  • Cynnal casgliadau yn eich digwyddiadau
  • Rhoi rhoddion i Adferiad yn hytrach na rhoddion priodas
  • Sefydlu Tudalen Codi Arian ar-lein
  • Sefydlu cronfa deyrnged er cof am anwylyn.
Codi arian

Dewch at eich gilydd!

Mae codi arian yn esgus perffaith i gael eich ffrindiau a’ch teulu i ddod at ei gilydd! Gall rhywbeth mor syml a barbeciw i’r teulu neu noson gwis wneud gwahaniaeth mawr. Byddai esiamplau eraill yn cynnwys:

  • Te Prynhawn gyda chyfeillion
  • Boreau Coffi gyda chydweithwyr
  • Cynnal digwyddiad elusennol yn eich lleoliad lleol e.e. dawns elusennol wedi’i noddi neu gig.
  • Trefnu dawns neu gala.
Codi arian

Clywch am rai sydd wedi codi arian i ni 

Codi arian

Ym mis Medi 2021, bu tîm arbennig yn cynnwys Tony Carter, Alvin Jones, Paul Turton a Roger Hughes yn cymryd rhan mewn taith feicio anhygoel 900+ milltir o Lands’ End yng Nghernyw i John O’Groats yn Yr Alban i godi dros £4000 i Adferiad.  Dywedodd Roger:

“Unwaith i ni benderfynu y byddai her eleni yn un fawr, roedden ni’n meddwl y byddai’n syniad da codi arian. Roedden ni’n siŵr y bydden ni’n cael cefnogaeth dda ac roedden ni’n iawn wrth godi bron i £2500 cyn dechrau’r digwyddiad. Roeddem am ddewis elusen leol i sicrhau bod 100% o’r arian yn mynd i ddefnydd da. Felly roedden ni’n meddwl y bydden ni’n gwneud hynny i Adferiad a’r ffactor dros benderfynu hynny oedd bod gennym ni brofiad o bobl sy’n agos atom ni sydd wedi cael cymorth gan Adferiad yn y gorffennol felly roedden ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.”

Codi arian

Ym mis Mehefin 2022, Cododd Tîm Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Adferiad yng Nghwm Taf dros £500 i ariannu gweithgareddau grŵp cymdeithasol a sesiynau therapi antur i bobl ifanc yn ardal Cwm Taf drwy gerdded 10,000 o gamau’r dydd ar y cyd drwy gydol mis Gorffennaf. Roedd cerdded a siarad yn agwedd allweddol o’r her hon, gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cadarnhau bod mynd allan i’r awyr agored a chymryd rhan mewn ymarfer corff ar yr un pryd a siarad ac agor i fyny am eu problemau wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar eu lles meddyliol. Dywedodd Lloyd Ashley, Llysgennad Pobl Ifanc Adferiad:

“bydd y weithgaredd codi arian hon yn wych i’r bois gael allan i’r awyr iach, i elwa o fod yn actif ac, wrth gwrs, mae hyn wedyn yn cael effaith gynyddol o wella eu lles meddyliol a’u hagwedd at fywyd.”

Codi arian

Yn Chwefror 2023, treuliodd staff o’r bwyty Hoogah, ynghyd â llawer o wirfoddolwyr brwdfrydig, bob dydd yn troedio i mewn i ddŵr oer Abertawe i godi arian ar gyfer Adferiad fel eu helusen y mis.