Amdanom ni

Amdanom ni

Mae Adferiad Recovery yn elusen a arweinir gan aelodau sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, caethiwed a phroblemau cymhleth eraill i uchafu eu potensial personol, a chyflawni gwell ansawdd bywyd.

Mae ein staff arbenigol a’n gwirfoddolwyr yn defnyddio dull person cyfan i helpu pobl ym mhob rhan o’u bywydau fel y gallant fyw ag urddas ac mor annibynnol â phosibl. Rydym yn bobl sy’n gadarnhaol tuag at hawliau o fewn sefydliad sy’n gadarnhaol tuag at hawliau.

Amdanom ni

Mae ein cefnogaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer ein cleientiaid, gofalwyr a theuluoedd; rydym yn gweithredu ein gwasanaethau yn mhob un o’r 22 sir yng Nghymru ac yn Swydd Gaerhirfryn.

Rydym hefyd yn rhoi llais cenedlaethol a lleol i’n cleientiaid ac yn ymgyrchu ochr yn ochr gyda hwy i ddiwygio polisi a chyfraith, gwella gwasanaethau a brwydro yn erbyn gwahaniaethu.

Amdanom ni

Ein gwerthoedd 

Mae ein Gwerthodd yn sail i bopeth ac yn cyfeirio popeth a wnawn, a thrwy pob lefel o’r elusen. Nid yn unig yr ydym yn dilyn y gwerthoedd hyn, rydym yn eu byw, gan sicrhau bod ein gwaith bob amser er budd y rhai rydym yn eu cefnogi.

  • Gweithio Gyda’n Gilydd
  • Ymrwymiad i Ofal a Chefnogaeth o Safon
  • Dysgu ac Adlewyrchu
  • Urddas a Pharch
Amdanom ni

Yr hyn a ddarparwn 

Rydym wedi casglu gwerth dros 50 mlynedd o wybodaeth a phrofiad wrth gefnogi’r rhai ag anghenion cymhleth. Gallwch ddarganfod mwy drwy glicio isod.

Gwybodaeth a chefnogaeth

Archwilio Adferiad

Amdanom ni

Diddordeb mewn gweithio i ni? 

Yn hoffi’r hyn rydych wedi’i ddarllen? Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, cliciwch isod!

Swyddi gwag